google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Advertisements

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar newidiadau yn ystod gêm o griced.

“O’n i’n chwarae criced gyda Bronwydd,” meddai Olwen. “O’n i’n teimlo’n fine, ond yng nghanol y gêm ‘nes i ddechrau teimlo’n sychedig iawn a ‘nes i ddechrau yfed lot o ddŵr.

“[Cyn cael diagnosis] doeddwn i’m yn teimlo’n sâl o gwbl. Ond oedd Mam wedi sylwi bo’ fi’n yfed lot mwy. Doeddwn i’m yn gwybod os oedd e oherwydd y tywydd twym neu stress arholiadau.”

Yn ôl Dr Llinos Roberts, mae’r symptomau’n gallu bod yn ddryslyd ac yn anodd i’w canfod ar y dechrau:

“O’n i wedi sylwi bo’ ti’n sychedig ond oedd o dros y cyfnod poeth iawn felly o’n i wedi meddwl bod o oherwydd y tywydd falle neu bod straen cyfnod yr arholiadau yn arwain at newidiadau. Diolch byth bo’ fi wedi meddwl mai diabetes oedd o.”


BBC News

See also  Gêm gyfartal i Gymru oddi cartref yn erbyn Twrci

Check Also

Prifysgol Aberystwyth yn ein cadw’n ddiogel rhag tywydd y gofod

Yn ystafell reoli y Swyddfa Dywydd ar gyrion Caerwysg mae Richard Stone a’i gydweithwyr yn …

Y côr meibion sydd wedi mynd yn feiral ar TikTok

Mae Alex Jackson sy’n 68 ac yn aelod o’r côr ers tair blynedd a hanner …

Ar y Cae: Sioe gerdd am gariad cwiar sydd ‘ddim yn tragic!’

Cafodd y criw adborth gwych gan y gynulleidfa am eu perfformiad o Ar y Cae, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime