google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Etholiad ’99: Alun Michael a’r Daeargryn Etholiadol tawel

Erbyn amser te ar y dydd Iau hanesyddol hwnnw roedd ffigyrau cychwynnol yr exit poll yn barod, oedd yn awgrymu fod Llafur yn brin o fwyafrif a Phlaid Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol.

Dwi ddim yn siŵr os oedd rhywfaint o ddireidi tu cefn i benderfyniad Aled Eirug, Pennaeth Newyddion y BBC ar y pryd, i ofyn i mi gyflwyno’r newyddion i’n darpar Brif Ysgrifennydd oedd newydd ymddangos yn stiwdios y BBC.

Dyna ble oeddwn i, yn gyw ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Cymru, yn cyflwyno data’r arolwg i Alun Michael. Newyddion chwerwfelys oedd gen i iddo; gan fod Llafur wedi colli nifer o etholaethau, roedd ei etholiad yntau wedi ei sicrhau.

Mi wnaeth Alun holi ambell gwestiwn i gadarnhau’r sefyllfa, ond roeddwn i’n siŵr – roedd e ar ei ffordd i’r Cynulliad, ac roedd yntau yn gwbl fonheddig er gwaethaf y gwasgedd sylweddol oedd arno.

Drannoeth yr etholiad bu’r cyfrif a chadarnhawyd canlyniadau trawiadol yr arolwg barn; fe ddigwyddodd yr hyn a alwodd Dafydd Wigley yn ‘ddaeargryn tawel’, ac fe symudodd platiau tectonig gwleidyddiaeth Cymru.


Source link

See also  Messages reveal Bridgend prison staff violence towards inmates

Check Also

Dyfodol darlledu Cymraeg ‘mewn perygl’ ac ‘mae’n rhaid newid ffi’r drwydded’

Dywedodd Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru Wales, Rhys Evans fod “BBC Cymru Wales yma i …

BBC Cymru Wales faces managed decline without more cash, MPs told

A senior BBC Cymru Wales executive has warned MPs the broadcaster does not have the …

Pontypridd home infested with thousands of cockroaches

Davies said the number of cockroach infestations he was dealing with had increased dramatically. “Five …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime