google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Creu cannoedd o swyddi yn y gogledd gyda phrosiect dal carbon

Advertisements

Bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu yng ngogledd Cymru gan gynllun i adeiladu’r safle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddal a storio carbon ger ffatri sment.

I ddechrau bydd 500 o swyddi newydd ar gael wrth adeiladu ffatri prosesu newydd dros y tair blynedd nesaf ar safle Heidelberg Materials yn Padeswood, Sir y Fflint.

Yna, bydd 50 o swyddi parhaol yn cael eu creu, gan ymuno â’r gweithlu presennol o 220.

Cyhoeddwyd y prosiect, ynghyd ag un arall mewn gorsaf troi gwastraff i ynni yng ngogledd-orllewin Lloegr, gan Lywodraeth y DU ddydd Iau, fel rhan o’u cynllun i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.

Mae hyn yn golygu torri allyriadau tŷ gwydr yn ddramatig, fel nad yw’r wlad yn cyfrannu bellach at gynhesu byd eang.

Dywedodd y Gweinidog Ynni Michael Shanks ar ymweliad â’r safle yn Sir y Fflint fod y prosiect yn cynrychioli eu hymrwymiad i’w “genhadaeth pŵer glân”, ond y byddai hefyd yn sicrhau bod “cyfleoedd economaidd a diwydiannol” ar gael.

Ond, mae’r arbenigwr ynni Huw Michael yn cwestiynu a yw’r dechnoleg yn gost effeithiol.


BBC News

Views: 0

See also  Byw gyda MS: 'Gwerthfawrogi pob eiliad gyda Mam'

Check Also

Pâr wedi ‘syfrdanu’ o dderbyn sylwadau homoffobig

Trosedd gasineb (hate crime) yw unrhyw drosedd yng Nghymru a Lloegr lle mae’r dioddefwr neu …

Disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau’n brif weinidog ddydd Mawrth

Dydd Llun doedd hi ddim yn glir a fyddai’r bleidlais yn mynd yn ei blaen, …

The rise of Glamorgan's record-breaking teenager Norton

Glamorgan have a rising bowling star to cherish in Tom Norton after the 18-year-old’s record-breaking …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.