google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dirgelwch llwyr’ caneuon coll Triawd y Coleg

Wrth bori drwy archifau’r BBC yn ddiweddar, daeth Huw Meredydd, cynhyrchydd rhaglen Linda Griffiths ar Radio Cymru, o hyd i ganeuon o 1948 gan Driawd y Coleg sydd erioed wedi eu rhyddhau ar record ac, o bosib, heb eu clywed ers 1948.

Triawd o Brifysgol Bangor oedd Triawd y Coleg, sef Meredydd Evans, Cledwyn Jones a Robin Williams, ac mi oedden nhw’n ddylanwadol iawn yng nghanu cyfoes Cymraeg yn y 1940au.

Mae’r tri wedi marw erbyn hyn ond bu Cymru Fyw yn siarad gydag Eluned Evans, merch Meredydd Evans, am y caneuon coll a’u harwyddocâd i’r teuluoedd.

Doedd Eluned, sy’n byw yng Nghwmystwyth, erioed wedi clywed am y caneuon, sy’n ychwanegu at y dirgelwch – ond mae ganddi atgofion melys am hen gloc wyth niwrnod y teulu ac mi esboniodd wrth Cymru Fyw pam fod y gân coll Hen Gloc Wyth Niwrnod fy Nhaid mor arwyddocoal.

Meddai: “Dwi ddim yn cofio Dad erioed yn sôn am ganeuon ar wahân i beth oeddan ni arfer clywed. Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am rhain.

“Mae ‘na ddau gyfrol o ganeuon y Triawd wedi printio yn y 1940au a dyw nhw ddim yn hwnna. Ac aethon ni i America i fyw yn 1952 felly mae’n rhaid bod nhw wedi recordio nhw falle cyn bod nhw mor enwog ar raglen Noson Lawen. Falle bod nhw’n ganeuon cynnar.

“Mae llythyrau Mam ar ôl iddi gwrdd a Dad gen i ac mae dyddiaduron Dad gen i – ond does ‘na ddim byd yn yr un o’r ddau.

“Felly mae o’n hollol syrpreis i fi ar wahan i’r gân Plis Ga’i Wŷ – dwi’n cofio rhywun yn sôn am honna wrtha’i ond efo’r gweddill dwi ddim yn cofio Dad yn sôn amdani nhw nac yn canu nhw. Felly mae’n ddirgelwch llwyr i mi.”


BBC News

Advertisements

See also  Pickup truck driver jailed for running over women

Check Also

‘Dwi yma ers mod i’n 19 – pryd ga i ystyried fy hun yn Gymro?’

Dadl Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn ei hanfod yw mai label ieithyddol oedd …

Penodi Deon newydd â ‘phrofiad helaeth’ i Gadeirlan Bangor

Yn ôl Nia Catrin Williams mae hi eisiau “adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu …

Lauren Price to defend world titles against Michaela Kotaskova on BBC in November

Price’s promoter Ben Shalom said: “Lauren Price is one of the biggest names in British …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime