google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau’n brif weinidog ddydd Mawrth

Advertisements

Dydd Llun doedd hi ddim yn glir a fyddai’r bleidlais yn mynd yn ei blaen, oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai’n cymryd swydd y dirprwy lywydd.

Ond yn unol â rheolau sefydlog y Senedd, mae llefarydd ar ran Plaid Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd y blaid yn enwebu rhywun ar gyfer y rôl.

Os yw’r llywydd yn aelod o wrthblaid – fel Huw Irranca-Davies o Lafur neu Paul Davies o’r Ceidwadwyr – yna mae rhaid i’r dirprwy lywydd fod yn aelod o’r llywodraeth.

Bydd Plaid Cymru yn cynnal cyfarfod o’u grŵp aelodau etholedig yn y Senedd fore Mawrth – y 43 ohonyn nhw.

Mae hyn chwe sedd yn brin o fwyafrif, ond yn ddigon i Rhun ap Iorwerth fwrw ‘mlaen â’i nod o greu llywodraeth leiafrifol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn “barod i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru ac rydym yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan, heb amheuaeth, pob cymuned”.

“Byddwn yn gwneud popeth i ad-dalu’r ffydd y mae pobl wedi rhoi ynom ni, oherwydd mae gennym yr awch amlwg i wneud gwahaniaeth i’r hyn sy’n bwysig i fywydau pobl.”


BBC News

Views: 0

See also  Major rail disruption for 'urgent' bridge repair in Cardiff

Check Also

Takeaway driver accused of handcuffing and raping girl plied with crack cocaine

A number of suspects in a child sexual exploitation investigation appear in court. BBC News …

Dau AS Llafur o Gymru yn galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo

Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw …

Alice Griffiths: Wales midfielder quits professional game at 25

Wales midfielder Alice Griffiths has announced her retirement from the professional game at the age …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime