google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Trydan yn ôl i bawb wedi Storm Darragh ond cryn ddifrod i goed

Yn ystod yr wythnos roedd yna gryn anniddigrwydd mewn rhai ardaloedd wrth i bobl orfod aros am ddiwrnodau cyn cael y trydan yn ôl.

Wrth siarad â’r BBC fore Sadwrn dywedodd y cynghorydd Iwan Ward, sy’n cynrychioli ardaloedd Boncath a Chlydau yn Sir Benfro, bod y trigolion olaf i gael y trydan yn ôl wedi cael pŵer i’w cartefi fore Sadwrn – wythnos wedi’r storm.

“Y broblem fwyaf oedd y wybodaeth roedd y Grid Cenedlaethol yn ei rhoi i bobl – roedd pobl yn codi eu gobeithion o glywed y byddai’n ôl trannoeth ond erbyn i’r amser hwnnw ddod roedd yna ohirio pellach ac felly doedd ‘na ddim modd ymddiried yn y wybodaeth.

“Pe bai pobl yn gwybod o flaen llaw y byddai’n cymryd amser byddent wedi gallu symud at deuluoedd neu aros mewn llety,” ychwanegodd.

Ond mae’n pwysleisio bod criwiau’r Grid Cenedlaethol ar lawr gwlad “wedi bod yn hollol anhygoel” ac wedi peryglu eu bywydau i adfer y cyflenwad.

“Nid nhw sydd ar fai ond y bobl a’r polisïau sydd ar y brig – y systemau sydd angen eu newid,” meddai.

Gydol yr wythnos roedd y Grid Cenedlaethol yn pwysleisio bod eu gweithwyr yn “gwneud eu gorau posib” i adfer cyflenwadau ar draws Cymru.


Source link

See also  Côr ac elusen Only Boys Aloud 'i ddarfod heb godi £150,000'

Check Also

Cordia: ‘Anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael’

“Mae’n anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael wrth edrych yn ôl. Os bysa rhywun …

Pryder am gyflenwadau dŵr ffynnon wrth i un fynd yn sych am y tro cyntaf

Yn ôl llywydd undeb ffermio NFU Cymru, mae pryderon yn ymestyn ymhell y tu hwnt …

Wales pushing the pain barrier in bid to improve

Wales kick-off their campaign against South Africa at Cardiff Arms Park on 18 September before …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime