google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Harbour Way yn y dref am 14:15 ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad fore Sul fe gadarnhaodd Heddlu’r De fod gyrrwr un o’r beiciau modur, dyn 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae’r llu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau all fod o ddefnydd i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Murder arrest after body found after Bwlch-llan house fire

Check Also

Gwalia win first home game against Bournemouth Sports

Gwalia United made it two wins from two in the FA Women’s National League Division …

RSPCA appeal as dead dog found on England-Wales border

The body of a dog has been found in “suspicious circumstances” on the border between …

Port Talbot: Man, 40, dies after two motorcycles crash

A 40-year-old man from Bridgend has died following a collision between two motorbikes. It happened …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime