google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Torri calon’ – dim lle mewn ysgol Gymraeg ym Mhowys

Roedd Lowri a Dylan Wyn Jones, o Groesoswallt yn Sir Amwythig, wedi gobeithio y byddai eu mab bach, Ynyr, 4 oed, yn cael lle yn Ysgol Gymraeg Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Dyma’r ysgol Gymraeg agosaf iddyn nhw.

Mae Lluan, eu merch 6 oed, eisoes yn ddisgybl yno, ac mae Ynyr yn mynychu’r Cylch Meithrin yno, ac wedi bod yn mynd drwy gyfnod pontio i baratoi at fis Medi.

Ond mae’r teulu nawr ar ddeall nad oes lle iddo fis Medi.

Dywedodd y teulu fod ‘na “dri o blant wedi cael eu gwrthod ond Ynyr ydy’r unig un sydd eisiau’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg”.

Mae Ynyr yn mynychu’r Cylch Meithrin ar hyn o bryd, ond gan nad oes lle yn yr ysgol ni fydd yn cael mynd i’r dosbarth derbyn fis Medi.

Mae’r teulu yn dweud eu bod yn poeni bod y llythyr gwrthod yn dweud bod angen iddyn nhw ofyn i Sir Amwythig am le mewn ysgol.


Source link

Views: 0

See also  Cyn-brif weinidog wedi'i rwystro rhag pleidleisio o'r car

Check Also

'Toxic work culture and bullying' at uni prompts inquiry call

Two former staff members are bringing employment tribunal cases against the university. BBC News Views: …

George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor

Mae George North, 34, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd …

Beth yw hoff ymadroddion y Cymry?

Wedi i’r iaith Gymraeg chael ei disgrifio gan yr ieithydd Susie Dent fel yr iaith …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.