google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dylai Arron Banks ymddiheuro am sylw ‘Welsh lad’ – Farage

Dywedodd hefyd nad oedd Banks yn ymwneud â gwleidyddiaeth Cymru.

“Yn gyntaf, nid yw’n ymgeisydd, yn ail, nid yw’n Gymro, ac yn drydydd, nid yw erioed wedi rhoi arian i’r blaid,” ychwanegodd.

Mr Banks oedd ymgeisydd Reform yn yr etholiad ar gyfer Maer Gorllewin Lloegr yn 2025, ble daeth yn ail y tu ôl i Lafur.

Roedd yn gyfrannwr ariannol mawr i blaid UKIP yn nyddiau Nigel Farage fel arweinydd, a bu’n rhan o’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Nid yw’n sefyll yn yr etholiad i Senedd Cymru yr wythnos nesaf.

Pan ofynnodd BBC Cymru i Arron Banks a allai egluro ei sylw, ac os oedd am ymateb i feirniadaeth Liz Saville Roberts, dywedodd mai “jôc oedd e”.

“Mae Plaid, yn ddealladwy, wedi colli eu synnwyr digrifwch.”

“Mae Plaid o hyd yn dweud taw dim ond i’r Cymry mae Cymru, ac yn wrth-Seisnig,” ychwanegodd.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Mold: River Alyn pollution levels fall after Synthite factory fire

Check Also

Cymraes, 21, fu farw yn Awstralia yn ‘berffaith ym mhob ffordd’

Mae dynes 21 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Awstralia, wedi cael ei …

Sut mae cadw pobl ifanc rhag gadael Ynys Môn?

Yn ôl ffigyrau newydd gan Lywodraeth Cymru, yn y 18 mis hyd at 2024 mi …

Marlyn Samuel a’i gyrfa sgwennu ac ennill Medal Ddrama’r Urdd

“O’n i wastad isio sgwennu nofel. Ond do’n i ddim yn gwybod sut i fynd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In many instances red flags are raised at the time of death of florida residents who otherwise own northern property. The best hair cut in london – you finally found it !. simple peptides buy research peptides online.