google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 i’w chynnal yng Ngheredigion

Advertisements

Mae’r Urdd wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2029 yn cael ei chynnal yng Ngheredigion.

Yn 2029 bydd Prifwyl yr Urdd yn dathlu ei chanfed pen-blwydd wedi i’r Urdd ei hun gael ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi’r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i’r sir.

Y tro diwethaf i Geredigion gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd oedd yn Llanerchaeron, ger Aberaeron yn 2010 a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Nododd adroddiad a oedd gerbron y cynghorwyr bod disgwyl i’r cyngor sy’n cynnal yr ŵyl wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal Eisteddfod yr Urdd.

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai angen cyfraniad o hyd at £300,000 er mwyn i’r awdurdod lleol gael presenoldeb ar y Maes yn ogystal ag unrhyw ffioedd cysylltiedig fel cau ffyrdd a chael gwared ar derfynau cyflymder dros dro.

“Felly, fe fyddai angen cyfanswm o £500,000 i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029,” meddai’r adroddiad.


BBC News

Views: 1

See also  Galw am gefnogi sefydliadau Cymreig bro'r Eisteddfod

Check Also

'Little hero' rescued drowning friend from the sea by her hair

Tamika and Sofia-Ann were cut off by the tide and pulled under water by the …

Her un Cofi i redeg cilomedr am bob gôl yng Nghwpan y Byd

Wrth i gefnogwyr Yr Almaen estyn am stein arall i ddathlu buddugoliaeth 7-1 yn erbyn …

Plaid says it has found £55m to boost childcare for two-year-olds

The extra cash will provide an additional 3,000 spaces for two-year-olds. BBC News Views: 0 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Search properties coconut point residences. We spend most of our time selecting the world’s finest cashew nuts. Just a moment....