google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrngedau i’r Parchedig John Owen, Rhuthun – englynwr a chynhyrchydd

Roedd y Parchedig John Owen yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg. Cafodd ei arestio yn y 70au am beidio â thalu trwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch dros sianel Gymraeg.

Roedd hefyd ymhlith grŵp bychan o gefnogwyr pêl-droed Wrecsam i berswadio’r clwb i roi lle i’r Gymraeg a bu’n cyfrannu i’r rhaglen swyddogol a gwneud cyhoeddiadau Cymraeg cyn gemau.

Mae’r Parchedig Pryderi Llwyd Jones wedi bod yn gyfaill i John Owen ers dyddiau’r ddau yn y brifysgol ym Mangor.

“Roedden i’n mynd ar wyliau gyda’n gilydd, yn treulio’r Calan ac yn cael llawer o hwyl.

“Fe fyddwn i’n ei ddisgrifio fel cymeriad cyfa’ – yn ddyn cwbl amryddawn oedd â diddordeb ymhob peth. Roedd o’n gwbl gydwybodol ac yn ffyddlon i’w ofalaeth, yn genedlaetholwr a oedd yn ymddiddori’n fawr mewn llenyddiaeth ac ym materion y dydd.

“Roedd byd y ddrama yn bwysig iddo – roedd yn ddramodydd ei hun, roedd wedi cyfieithu nifer ac wedi cynhyrchu a chyfarwyddo llawer i Gymdeithas Ddrama Rhuthun.

“Fe fyddai’n ei golli’n fawr – ef a’i hiwmor a’i straeon ffraeth.”

Bu’r Parchedig John Owen, a dathlodd 60 mlynedd yn y weinidogaeth yn 2024, yn llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd ac yn 2004 yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

Bu farw ei wraig Ann yn 1992 a’i ail wraig Gwenda yn 2019 wedi brwydr hir yn erbyn y clefyd motor niwron.

Cafodd ei gyfrol Creu Briwsion ei chyhoeddi yn 2025 gan godi rhai miloedd o bunnau i elusennau cymdeithas motor niwron a Tenovus.

Mae’r Parchedig John Owen yn gadael ei feibion Dafydd a Huw a’u teuluoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Pembrokeshire zoo welcomes three endangered red panda cubs

Check Also

150 mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol meddygfa ‘hanfodol’ i bentref

Dywedodd Ann Klages, clerc y cyngor cymuned, ei bod hi wrth ei bodd gyda nifer …

Y dyn a gafodd bythefnos i fyw sydd bellach yn helpu miloedd i sobri

Ar ôl blynyddoedd o fod yn gaeth i alcohol a chyffuriau presgripsiwn, mae Chris Rees …

Pryder y bydd mwy o lifogydd os yw ffrwydradau chwarel yn parhau

Yn ôl Mr Duncan fe ddywedodd y cwmni wrtho y byddai unhryw ffrwyrdradau yn y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime