google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Marlyn Samuel a’i gyrfa sgwennu ac ennill Medal Ddrama’r Urdd

“O’n i wastad isio sgwennu nofel. Ond do’n i ddim yn gwybod sut i fynd ati. Drama o’n i wedi arfer sgwennu trwy’r cefndir Theatr Fach a dramâu radio.

“Ond do’n i ddim yn gwybod sut i fynd o’i chwmpas hi – yn enwedig y math o nofelau o’n i isho sgwennu, rhai ysgafn lle fysa ti’n gallu darllen rhyw bennod cyn mynd i gysgu neu wrth y pwll,” meddai.

Ar ôl sgwrs gyda Mared Jones, oedd newydd ei phenodi yn Olygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, dyma Marlyn yn anfon syniad a phennod am deulu yn mynd draw i Gyprus i wasgaru llwch pen y teulu, a thra yno mae ‘na gyfrinachau mawr yn dod allan.

Fe gafodd y nofel ei chomisiynu ac ers hynny mae Marlyn wedi cyhoeddi chwe nofel arall.

Ers blynyddoedd mae Marlyn wedi bod yn aelod blaenllaw o Theatr Fach yn Llangefni, felly mae’r ddawn o sgwennu deialog yn dod yn naturiol iddi.

“Dwi’n mwynhau sgwennu deialog a dwi’n clywed y cymeriadau. Fyddai’n mynd â’r ci am dro ar ganol sgwennu pennod a weithiau ma rhywun yn mynd yn styc.

“Wrth fynd a’r ci am dro fyddai’n clwad y cymeriadau ma yn siarad efo fi yn fy mhen, mae’r ddeialog yn digwydd yn fy mhen i, rhuthro adra wedyn i gofio be dwi wedi ei drafod yn fy mhen.”


BBC News

Advertisements

See also  Wrexham: Ready meals factory workers strike over 'despicable' pay

Check Also

Aberfan disaster: ‘My great-grandad saved your life’

One asked whether she had experienced post-traumatic stress disorder, external. “It wasn’t until five years …

Wales' 'oldest man', 107, says fish and chips key to long life

Owen Filer was born in 1919 and served with the Royal Welsh Fusiliers during World …

Ateb y Galw: Alun Davies

Alun Davies, awdur sy’n wreiddiol o Geredigion ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd sy’n …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime