google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diffoddwyr yn ymateb i danau gwyllt yng Nghwm Elan

Advertisements

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud eu bod wedi anfon hofrennydd diffodd tân i gefnogi’r Gwasanaeth Tân.

Bydd yr hofrennydd yn gollwng dŵr ar ardaloedd lle mae adar yn nythu a lle mae cynefinoedd mawn sensitif, mamaliaid bach a phlanhigion prin, meddai llefarydd.

Dywedodd Richard Preece, Rheolwr Tactegol Cymru ar Ddyletswydd ar gyfer CNC: “Byddwn yn dal ati i gefnogi’r gwasanaethau brys ar hyd a lled Cymru i helpu i fynd i’r afael â thanau ar y tir yn ein gofal, ac mewn tirweddau gwarchodedig fel Cwm Elan.

“Mae’r tywydd sych presennol wedi cynyddu’r perygl tân yn sylweddol.

“Os ydych yn ymweld â chefn gwlad neu ein safleoedd dros Ŵyl y Banc, byddwch yn gyfrifol: peidiwch â chynnau tân na barbeciws, gwaredwch sigaréts yn ddiogel, ac ewch â’ch sbwriel adref.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Rydym yn ymwybodol o dân gwyllt yn llosgi ar dir gerllaw Ystâd Hafod yng Nghanolbarth Cymru ac wedi cymryd y mesur i gau’r ystâd i ymwelwyr fel rhagofal.

“Mae ein timau ceidwaid mewn cysylltiad â’r gwasanaeth tân lleol ac yn monitro’r sefyllfa’n agos.”


BBC News

Views: 2

See also  Tata Steel: UK government set to agree £500m subsidy

Check Also

George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor

Mae George North, 34, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd …

Beth yw hoff ymadroddion y Cymry?

Wedi i’r iaith Gymraeg chael ei disgrifio gan yr ieithydd Susie Dent fel yr iaith …

Jess Fishlock: Seattle Reign allay fears that Wales legend’s career could be over

The NWSL regular season is due to end on 1 November, with the play-offs to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.