google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-brif weinidog wedi’i rwystro rhag pleidleisio o’r car

Advertisements

Ymddiheurodd y cyn-weinidog trafnidiaeth Lee Waters i’r Llywydd Elin Jones ar 21 Medi ar ôl iddo gael ei weld mewn car gan yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd Sam Kurtz, yn ystod pleidlais ar ddeddfwriaeth bysiau Llywodraeth y DU.

Y diwrnod canlynol, atgoffodd Ms Jones aelodau o’r Senedd o’r canllawiau.

“Fe gododd mater yn ystod y cyfnod pleidleisio neithiwr lle bwriodd aelod bleidlais tra oedd mewn cerbyd, sy’n groes i’r canllawiau sydd wedi eu rhoi i aelodau,” meddai.

“Mae’r aelod wedi ymddiheuro i fi, a dwi wedi penderfynu y bydd y bleidlais yn sefyll ar yr achlysur yma.

“…I fod yn glir, ni ddylai aelod bleidleisio tra’i fod mewn cerbyd neu ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wrth deithio – felly, hynny fydd yn cael ei weithredu o hyn ymlaen.”

Wythnos yn ddiweddarach, gwelwyd Vaughan Gething mewn car gan ASau yn ystod y cyfnod pleidleisio ddydd Mercher.

O ganlyniad, dywedodd David Rees, y Dirprwy Lywydd, na fyddai’n derbyn y bleidlais.

Ni wnaeth Mr Rees enwi’r person dan sylw ond mae BBC Cymru yn deall o sawl ffynhonnell fod Mr Gething wedi’i weld ar sgriniau’r siambr.


BBC News

Views: 0

See also  Watch trailer for Robbie Savage: Managing Macclesfield FC

Check Also

Lluniau: Harddwch Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Mae 9 Mehefin yn nodi 20 mlynedd ers i’r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri …

Gorlenwi carchardai Cymru a phrinder staff yn 'tanseilio diogelwch'

Mae gorlenwi a diffyg staff yng ngharchardai Cymru yn “tanseilio diogelwch staff a charcharorion”, meddai …

Cyngor Gwynedd i gadarnhau a ydyn nhw am gau ysgol leiaf y sir

Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol yn 2021 ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Just a moment.... Link. New wordpress website is being built and will be published soon.