google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrngedau i ddau o bobl fu farw ger pier Biwmares

Mae Heddlu’r Gogledd Cymru yn dal i geisio cadarnhau holl amgylchiadau’r digwyddiad, ac yn awyddus i glywed gan bobl sydd heb siarad â nhw eisioes all fod â lluniau dash-cam neu gamera drws tŷ.

Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Bydd y gwrthdrawiad wedi cael effaith ddofn, nid yn unig ar deuluoedd pawb oedd yn rhan ohono, ond ar gymuned ehangach Biwmares.

“Hoffwn roi sicrwydd i bawb ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall beth yn union wnaeth achosi’r digwyddiad yma.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r gymuned ehangach ym Miwmares sydd wedi cynnig cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Wedi’r digwyddiad fe wnaeth yr Aelod Seneddol lleol, Llinos Medi, ganmol “gwydnwch cymunedol cryf” y dref, gan ategu apêl yr heddlu ar bobl i beidio â dyfalu beth oedd achos y gwrthdrawiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n andros o bwysig bod ‘na ddim amheuon yn cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol,” meddai.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.


Source link

Advertisements

See also  Wrexham Open: Second seed Camilla Rosatello knocked out on day one

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime