google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Profiad sy’n newid bywyd’ – allech chi ennill Race Across the World?

Advertisements

Mae cyn-gystadleuwyr Cymreig rhaglen deledu Race Across the World wedi disgrifio’r profiad fel un “swreal sy’n newid bywydau”, wrth i’r gyfres alw am gystadleuwyr newydd.

Mae Race Across the World y BBC, gafodd ei darlledu gyntaf yn 2019, yn dilyn pum pâr yn rasio ar draws y byd ac yn cynnig gwobr ariannol o £20,000 i’r pâr sy’n cyrraedd y pwynt terfynol gyntaf.

Ond dydy’r cystadleuwyr ddim yn cael defnyddio ffonau na’r rhyngrwyd, mae ganddyn nhw swm cyfyngedig o arian a dydyn nhw ddim yn cael hedfan.

Cymerodd Sioned Cray a Fin Gough o Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, ran yn y gystadleuaeth yn 2025, gan ddod yn drydydd ar ôl ras saith wythnos drwy China, Nepal ac India.

Mae cyn-gystadleuwyr eraill o Gymru, gan gynnwys Cathie Rowe a Tricia Sail o Aberystwyth, a enillodd cyfres tri, wedi dweud bod y profiad yn un “gwallgof, swreal, a newidiodd ein bywydau”.

Cafodd hysbyseb ei ryddhau ar gyfer chweched gyfres y rhaglen ddydd Sadwrn, gan awgrymu taith epig newydd o Ewrop i “ymylon anhysbys” Mongolia.


BBC News

Views: 1

See also  Wales' papers: Cyclist lost leg in crash and steel deal sealed

Check Also

Abertawe: Pryder am ddyfodol busnesau bach wedi ymadawiad M&S

Mae Cyngor Abertawe wedi dweud eu bod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd i adfywio canol …

Hanes brywdr bywyd Ant Evans wedi’i gyfleu yn ei hunangofiant

Daeth rhagor o galedi i fywyd Ant pan gydag ysgariad ei rieni yn 2009, a …

Galw am ‘isafswm cyflog i robotiaid’ i arafu colli swyddi oherwydd AI

Mae Llafur yn canolbwyntio ar ddefnyddio AI i dorri biwrocratiaeth yn y sector cyhoeddus ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.