google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Apiau AI yn rhoi cyngor camarweiniol ar etholiad y Senedd

Advertisements

Fe wnaethon ni roi manylion i bob ap AI am grŵp o bobl ffuglennol a gafodd eu creu gyda chymorth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (Natcen), i adlewyrchu chwe math gwahanol o bleidleiswyr ledled Cymru, â chredoau gwleidyddol gwahanol.

Gan roi gwybodaeth am bob un o’r pleidleiswyr ffuglennol yn eu tro, gofynnwyd i ChatGPT, Copilot, Gemini, Claude, Meta AI a Grok y canlynol:

  • Pwy i bleidleisio drosto;

  • Pwy yw’r ymgeiswyr yn eu hardal;

  • Sut mae’r system bleidleisio’r Senedd yn gweithio.

Fe wnaeth rhai o’r apiau wrthod ateb i ddechrau, ond wrth ofyn eto, fe wnaethon nhw argymell un neu ddwy blaid i o leiaf un pleidleisiwr ffuglennol.

I’r pleidleiswyr ffuglennol Siân a David, roedd yr apiau AI i gyd yn gyffredinol yn rhoi argymhellion tebyg ynghylch pwy i bleidleisio drosto, yn unol â’r credoau gwleidyddol a gafodd eu neilltuo iddyn nhw gan ymchwil Natcen.

Ond i Lauren, y trydydd pleidleisiwr, awgrymodd ChatGPT Lafur neu Blaid Cymru – tra bod Grok wedi dewis Reform UK.

Cafodd Lauren ei chreu fel pleidleisiwr sydd ddim yn dilyn gwleidyddiaeth yn agos – yr unig fanylyn oedd gan yr AI amdani oedd ei bod hi’n gweithio fel gyrrwr HGV, yn sengl ac yn rhentu fflat, ac yn poeni am gostau byw a’r GIG.

Mae’r gwahaniaeth yn yr ymatebion yn dangos y gall cyngor pleidleisio amrywio’n fawr o un chatbot i’r llall.


BBC News

See also  Endometriosis dating - Freezing eggs, fatigue and unsexy topics

Check Also

Bafta Cymru 2025: Madfabulous leads nominations with six

Feature film Madfabulous – which tells the story of an eccentric 19th Century Welsh aristocrat …

Swansea City transfer news: Manchester City winger Jeremy Monga joins on loan

Monga is a product of Leicester’s academy and made his senior debut as a 15-year-old …

Colli Islwyn Owen: ‘Dagrau bob dydd am flwyddyn ond mae’n dod yn haws’

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori hon beri gofid Roedd 4 Medi 2024 yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime