google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Colli Islwyn Owen: ‘Dagrau bob dydd am flwyddyn ond mae’n dod yn haws’

Advertisements

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori hon beri gofid

Roedd 4 Medi 2024 yn ddiwrnod y newidiodd bywyd Margaret Owen o Lanycil ger Y Bala am byth – bu farw ei gŵr Islwyn wedi iddo syrthio i danc slyri.

Ddwy flynedd wedi’r digwyddiad mae’n rhannu ei phrofiadau am y tro cyntaf ac yn sôn pa mor beryglus y gall bywyd fferm fod er gwaethaf sicrhau pob mesur diogelwch.

Mae oriau olaf dydd Mercher cyntaf Medi 2024 yn fyw iawn yn ei chof:

“Fel o’dd hi’n digwydd o’dd Islwyn yn hau fertiliser draw mewn fferm arall ac es i â cinio draw a gawson ni ginio yn y pick up gyda’n gilydd a tynnu coes – o’dd o’n awr fach neis,” meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

“Wedi i fi lenwi hot tub yr holiday let o’dd efo ni ar y pryd – mae’n cymryd dwy awr – es i nôl a pharatoi swper. Ond am 19:30 ‘oedd Islwyn ddim wedi cyrraedd… ambell waith fyddai fe ar y ffôn.

“Es i chwilio – o’dd y tractor yn rhedeg yn y slurry pit a dim byd arall i’w weld. O’dd ‘na deimlad bod rhywbeth o’i le erbyn hyn achos o’dd e byth yn hwyr iawn i swper.

“Nes i ffonio Meilir drws nesa’ ac wedi chwilio am dipyn ro’n i’n gwybod bod rhywbeth wedi digwydd a dyma ffonio’r heddlu.

“O’dd y cyfnod pan o’dd e ar goll yn ofnadw’ – ti’n dal gobaith o hyd er bo ti’n gwybod bod rhywbeth serious wedi digwydd.

“Ond pan ddoth y fire brigade o’dd Meilir wedi ffindio fe. O’dd e wedi stopo’r tractor a chodi’r slurry mixer fyny a ddo’th Islwyn fyny efo’r slurry mixer.

“O’dd hi’n rhy hwyr i’w achub. O’n i’n meddwl ar y pryd mai methane o’dd wedi achosi fe ond ga’th e toxicology ar y lungs a dim methane o’dd e – wedi syrthio o’dd e. Mae hynny’n anodd i’w dderbyn.”


BBC News

See also  'Gorgeous' resort named best UK seaside town on TimeOut list

Check Also

Follow-up appointments scrapped in Welsh NHS waiting list plan

According to ap Gwynfor, the approach will result in a permanent reduction in waiting times …

URC yn ‘weithle mwy diogel’ wedi canfyddiadau o ddiwylliant gwenwynig

Daeth yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan URC, yn sgil ymchwiliad gan BBC Cymru …

Michael Sheen says Wales should be asked if it wants Prince of Wales title back

Ayola last acted opposite Sheen 40 years ago when they were both teenagers, as part …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime