google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Y grŵp cymunedol sy’n gofalu am wiwerod cochion Môn

Mae’n debyg i boblogaeth y wiwer goch ar yr ynys grebachu yn yr 1980au yn sgil dyfodiad gwiwerod llwydion ar yr ynys. Roedd gweld wiwer goch ar yr ynys yn y ’90au yn rhywbeth prin iawn.

Erbyn 1997 roedd llai na 40 o wiwerod coch yn weddill ar yr ynys – pob un yn yr un goedwig ac o’r un llinach fenywaidd.

Felly yn 2004 sefydlwyd prosiect cadwraeth i ailgyflwyno gwiwerod cochion i Fôn, ac roedd hynny’n golygu cael gwared ar y rhai llwydion. Yn 2016, cyhoeddwyd nad oedd yr un wiwer lwyd ar yr ynys.

Erbyn heddiw mae tua 700 o wiwerod cochion ar Ynys Môn, sef tua 60% o boblogaeth wiwerod cochion Cymru.

Ond nid dim ond y wiwerod coch sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr ardal. Mae gan y grŵp tua 150 gwirfoddolwr cofrestredig, ac mae tua 70 o rheiny’n weithgar drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys myfyrwyr o Brifysgol Bangor, gan ddod â’r gymuned at ei gilydd. Dywedodd Melissa bod y grŵp yn cynnal sesiynau’n ymwneud â natur drwy gydol y flwyddyn.


BBC News

Advertisements

See also  Eisteddfod yr Urdd: Edrych yn ôl ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu

Check Also

Firelighter storage site near homes in Rhosesmor awaits go-ahead

Plans to build a warehouse intended to hold up to 600 tonnes of firelighters near …

Rhys Maher: O guro drysau Casnewydd i ganfasio yn Georgia, UDA

Roedd partner Rhys Maher, Caitlyn Gegen, yn ymgeisydd dros y Democratiaid yn Georgia ar noson …

Tribute to ‘gentle’ woman as man charged with Llandudno murder

A family have paid tribute to a “gentle” woman who was found dead at a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime