google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes wedi marw o drawiad gwres tra’n cerdded ar Yr Wyddfa – cwest

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar ôl dioddef trawiad gwres, neu heat-stroke.

Bu farw Sophie Goodyer-Bird, gweithiwr harddwch, o Birmingham wrth gerdded ar Yr Wyddfa ar 10 Gorffennaf.

Clywodd y cwest i’w marwolaeth fore Mercher ei bod wedi mynd i deimlo’n flinedig iawn wrth gerdded lawr o’r copa.

Wrth agosáu at ddiwedd y daith, meddai’r crwner, fe ddisgynnodd Ms Goodyer-Bird yn anymwybodol a bu farw yn fuan wedi hynny.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad, ond er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr brys, bu fawr yn y fan a’r lle.

Cofnodwyd yr achos marwolaeth dros dro fel trawiad gwres drwy ymdrech gorfforol.

Cafodd y cwest ei ohirio, ac nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad llawn ar hyn o bryd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Prifysgol Aberystwyth: 'Hyd at 200 o swyddi' dan fygythiad

Check Also

RAF Valley pilots involved in Anglesey jet crash thank emergency services

“They are also deeply grateful for the kindness, encouragement and well wishes received from people …

Biliau ynni yn codi tua £60 y flwyddyn, a rhybudd am gostau uwch i ddod

Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd yr arbenigwr ar y diwydiant ynni, Huw Michael …

‘Wnes i gyfarfod Christa Pike 20 mlynedd yn ôl – ddylai hi ddim cael ei dienyddio’

Fe wnaeth Pike a’i chariad ar y pryd guro, arteithio a llofruddio Colleen Slemmer, a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime