google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prifysgol Aberystwyth: ‘Hyd at 200 o swyddi’ dan fygythiad

Gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio gwneud arbedion o £15m, yn ôl Aelod o’r Senedd yr ardal.

Ddydd Iau, cyhoeddodd yr is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, “newid sylweddol” i’r ffordd mae’r sefydliad yn gweithredu, wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion.

Dywedodd y bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol er mwyn ceisio gwneud arbedion.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd AS Ceredigion, Elin Jones, bod undeb yn amcangyfrif y bydd hyd at 200 o swyddi yn cael eu colli.

“Mae’r undeb sy’n cynrychioli gweithwyr prifysgol wedi amcan y gall fod rhwng 150 a 200 o swyddi [dan fygythiad]”, meddai.

“Maen nhw fel fi yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r toriadau hynny yn cael eu cynnig yn wirfoddol gan weithwyr sy’n awyddus neu’n penderfynu gadael.”

Ychwanegodd bod pryder y bydd cyflwyno’r arbedion yn cael “effaith sylweddol ar y dref”.


Source link

Views: 0

See also  Talerddig: 'Posib osgoi gwrthdrawiad trên petai systemau'n gweithio'

Check Also

Yr heriau a’r trawma o lanhau sefyllfaoedd eithafol

Wrth i Ben lanhau mae’n sichrau, wrth symud drwy’r ardal, ei fod yn cadw popeth …

Carchar am oes i bensiynwr am lofruddio ei gymydog ar ddydd Nadolig

Mae dyn 67 oed o Sir Ddinbych wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio …

Labour politician wants training courses for rabbit owners in Wales

The Senedd election in May saw Hedges’ Labour lose power in Wales for the first …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
To prevent a major escalation in the sudanese city of el obeid is “rapidly narrowing”. Enzo ferrari figure speedstar models. These are shared with google adwords / google ads when the google ads and google analytics accounts are linked together.