google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am ymchwiliad allanol i wariant Betsi Cadwaladr ar ymchwil iechyd meddwl

Bydd adroddiad mewnol BIPBC yn cael ei ystyried gan ei bwyllgor archwilio.

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer, ei bod hi’n “bwysig nodi nad oes unrhyw awgrym o ymddygiad amhriodol”, wrth gomisiynu gwaith yn CIMaCh.

Dywedodd fod yr adolygiad wedi’i gomisiynu i sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith, “fel sy’n arfer da.”

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r bwrdd iechyd wedi mabwysiadu dull cynyddol gadarn o gomisiynu ac rydym yn benderfynol o’u cryfhau ymhellach.” dywedodd Ms Shillabeer.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod CIMaCh yn cydnabod “pwysigrwydd llywodraethu cadarn a thryloyw”.

Doedd y ganolfan ymchwil ddim wedi cymryd rhan yn uniongyrchol ym mhroses adolygu fewnol BIPBC, meddai’r llefarydd.

“Mae’r ganolfan yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio’n adeiladol gyda’r bwrdd iechyd wrth iddynt barhau i gynnal gweithgareddau sicrwydd pellach.”

Oherwydd pryderon ynghylch perfformiad ehangach y bwrdd iechyd, dywedodd Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y byddai’n cymryd rôl fwy uniongyrchol yn BIPBC.

Ond wrth ymateb i adroddiad mewnol BIPBC i CIMaCh, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Mater i’r bwrdd iechyd yw gweithredu ar ganfyddiadau’r archwiliad mewnol hwn.

“Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer y cyllid hwn.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  County Championship: Kent fight back after Glamorgan take big lead

Check Also

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Beth nesaf i dai gwag Môn sydd ddim yn cael bod yn gartrefi parhaol?

Ond pam felly nad yw’r cyngor wedi newid amod y tai yma? Mae Cyngor Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime