google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am ‘isafswm cyflog i robotiaid’ i arafu colli swyddi oherwydd AI

Advertisements

Mae Llafur yn canolbwyntio ar ddefnyddio AI i dorri biwrocratiaeth yn y sector cyhoeddus ac adeiladu “seilwaith digidol”, gan gyfeirio at y “Parthau Twf AI” newydd yng Nghymru i gefnogi defnydd ehangach.

Bydden nhw’n ariannu arloesedd trwy gynllun grantiau, ac mae Llafur am osod Cymru fel arweinydd mewn “AI moesegol” gyda Siarter AI Cyfrifol newydd.

Mae Plaid Cymru hefyd yn tynnu sylw at dwf a chynhyrchiant, ond yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau, mewnbwn gan weithwyr a strategaeth ddiwydiannol.

Byddai eu cynllun i greu asiantaeth datblygu genedlaethol yn cefnogi’r twf mewn sgiliau digidol, ac yn sicrhau bod mabwysiadu AI yn cael ei “arwain gan weithwyr” ac yn amddiffyn hawliau.

Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn pwysleisio potensial AI i dyfu’r economi, yn enwedig wrth foderneiddio’r GIG a gwella gwasanaethau.

O ran mesurau diogelwch, mae’r blaid yn dadlau y dylai AI “wella yn hytrach na disodli gwaith dynol”, a’i fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n amddiffyn swyddi a sgiliau.

Mae Reform UK yn cymryd safbwynt mwy gofalus, gan ddweud y gallai AI chwarae rhan wrth wella systemau digidol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, ond dim ond lle mae wedi’i “brofi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol”.

Doedd dim ymateb i geisiadau am sylwadau gan y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd.


BBC News

See also  ‘Gwarthus‘ nad yw Ysgrifennydd Cymru'n cyfathrebu yn Gymraeg fel AS

Check Also

Neath school sports pitch lights keeping kids awake

Neighbours living by a school are demanding it removes sports pitch floodlights amid claims they …

Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Roedd yna ymddiheuriad i chwaraewyr Caerdydd yn dilyn y gêm gan brif hyfforddwr Portsmouth, John …

Middlesex thump Glamorgan to secure home semi-final

Metro Bank Women’s One Day Cup League Two, Radlett Glamorgan 94: Gammon 26; Harley 4-27 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime