google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gwarthus‘ nad yw Ysgrifennydd Cymru’n cyfathrebu yn Gymraeg fel AS

Advertisements

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi cael ei beirniadu am sylwadau a wnaeth wrth esbonio pam ei bod yn cyfathrebu yn Saesneg yn unig fel AS Dwyrain Caerdydd.

Dywedodd bod “y Gymraeg yn un o’r nifer fawr o ieithoedd a siaredir” yn yr etholaeth a bod “bron pob etholwr yn siarad Saesneg”.

“Nid oes gofyniad statudol ar Aelodau Seneddol i ddarparu cyfathrebiadau dwyieithog (Saesneg a Chymraeg),” ychwanegodd.

Mynnodd yr AS ei bod yn “cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol”.

Dywedodd mudiad Dyfodol i’r Iaith eu bod yn “gresynu” nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn “dangos parch” tuag at y Gymraeg, tra bod Comisiynydd y Gymraeg yn “annog pob aelod sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu”.

Mae’r Blaid Lafur a Swyddfa Cymru wedi cael cais i ymateb.

Cafodd Jo Stevens ei hethol yn AS yn 2015 i gynrychioli Canol Caerdydd.

Mae wedi bod yn cynrychioli Dwyrain Caerdydd ers mis Gorffennaf 2024 ac wedi buddugoliaeth Llafur yn 2024 cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC bod yr ieithoedd a siaredir fel prif iaith yn etholaeth Seneddol Dwyrain Caerdydd, yn ôl y cyfrifiad, yn cynnwys Pwyleg, Rwsieg, Twrceg, Arabeg, Punjabi, Wrdw, Bengaleg, Gwjarati, Tamil, Mandarin, Cantoneg ac ieithoedd Tsieineaidd eraill.


BBC News

Views: 1

See also  Judgement reserved in police bomb attack case

Check Also

Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio’n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud “camgymeriad enfawr” …

Galw ar Andy Burnham i ‘weithredu’n wahanol i’w ragflaenwyr’ ar ddatganoli

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick hefyd yn galw am fwy …

Welsh football bosses reveal cost to improve facilities

The FAW-backed review saw local clubs and local authorities – and other sporting bodies – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport pima az. heavy equipment transport orange county fl.