google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio’n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

Pan ddaeth y sgandal i’r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud “camgymeriad enfawr” pan gafodd ei herio ynghylch bet o £100.

Ef oedd yr AS dros Ogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017 cyn iddo golli ei sedd i’r AS Llafur Anna McMorrin.

Yna cafodd ei ethol yn AS dros Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 2019, a chollodd ei sedd yn etholiad 2024 yn sgil y sgandal betio, wrth i’r Ceidwadwyr wynebu cael eu trechu’n llwyr ar draws yr etholiadau ledled y DU.

Dywedodd yr erlynydd Zoe Johnson y bydd tri chyhuddiad arall o dwyllo, y mae Williams yn eu gwadu, yn cael eu gollwng pan gaiff ei ddedfrydu.

Dywedodd fod Williams wedi cael “safle breintiedig, roedd yn rhan o nifer o gyfarfodydd yn Downing Street a phencadlys y Ceidwadwyr pan drafodwyd dyddiad yr etholiad cyffredinol”.

“Mae bellach wedi derbyn trwy ei ble ei fod wedi defnyddio gwybodaeth hynod sensitif a chyfrinachol i osod betiau ac i elwa,” meddai.

Plediodd Amy Hind, 35, gwraig dirprwy gyfarwyddwr digidol y Ceidwadwyr Anthony Hind, yn euog hefyd i dwyllo ar ddyddiad yr etholiad.

Roedd hi wedi gosod betiau o £10, £5, a £20 ar ddyddiad yr etholiad, cyn ceisio betio £767 a £700 ar bleidlais ym mis Gorffennaf ar 13 Mai 2024.

Methodd yr ymdrechion hynny, clywodd y llys, a cheisiodd osod bet o £700 y diwrnod canlynol cyn llwyddo i osod bet o £100 ar etholiad ym mis Gorffennaf, gyda thebygolrwydd o 11-1.

Yna, cafodd cyhuddiad ar wahân yn erbyn ei gŵr, sy’n 37 oed – ei fod wedi twyllo wrth gamblo drwy drosglwyddo gwybodaeth i’w wraig – ei ollwng gan yr erlynwyr.

Ni fydd Williams yn cael ei ddedfrydu nes bod ei gyd-ddiffynyddion yn wynebu eu hachos.

Hefyd yn y gwrandawiad ddydd Llun, plediodd 12 o gyd-ddiffynyddion yn ddieuog i dwyllo wrth gamblo mewn perthynas â betiau ar etholiad 2024.

Mae treialon wedi’u trefnu ar gyfer mis Medi 2027 a mis Ionawr 2028.

Cafodd y cyhuddiadau troseddol eu dwyn gan y Comisiwn Gamblo ar ôl i Ymgyrch Scott gael ei lansio i ymchwilio i wleidyddion a gweithwyr y Blaid Geidwadol yn gamblo yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.

Ymhlith y rhai sy’n gwadu’r cyhuddiadau mae Russell George, 52, a oedd yn aelod o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, a Thomas James, 39, a oedd yn gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Jeremy Hunt, 56, hefyd wedi ei gyhuddo, a oedd yn swyddog diogelu yn y Met ac yn rhan o’r tîm heddlu a oedd yn gweithio yn Stryd Downing.

Y cyd-ddiffynyddion yw Anthony Lee, 49, cyfarwyddwr ymgyrchu’r Blaid Geidwadol, a’i wraig, Laura Saunders, 38, a oedd yn bennaeth rhyngwladol ym Mhencadlys y ceidwadwyr ac yn ymgeisydd seneddol dros Ogledd-orllewin Bryste.

Mae Lee yn wynebu dau gyhuddiad – honnir iddo osod betiau ei hun a throsglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i’w wraig i’w helpu i dwyllo wrth gamblo.

Hefyd wedi’u cyhuddo mae swyddogion y Blaid Geidwadol gan gynnwys Nick Mason, 52, y prif swyddog data, Iain Makepeace, 48, pennaeth dylunio ac argraffu, ei fos, Simon Chatfield, 52, a oedd yn brif swyddog marchnata, a dirprwy gyfarwyddwr mewnwelediadau James Ward, 41.

Y cyd-ddiffynyddion hefyd yw Paul Place, 55, ymgynghorydd a oedd yn cael ei gyflogi gan y Blaid Geidwadol, strategydd gwleidyddol a chyn-ymgeisydd seneddol Charlotte Lang, 37, a Jacob Willmer, 40, brawd dirprwy bennaeth staff y Blaid Geidwadol Toby Willmer.

Mae disgwyl i’r achosion yma ddechrau ar 6 Medi 2027 a 3 Ionawr 2028.

Mae’r diffynyddion wedi cael mechnïaeth ddiamod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  'Mischievous' man died after canoe he stole capsized

Check Also

‘Special’ Janus cat, born with two mouths and two noses, dies

Warning: This story contains an image that some readers may find upsetting An “incredibly special” …

Who is Stephen Kinnock, the new Welsh secretary?

As for his new job, his father, Neil Kinnock says: “He’s multilingual. He will be …

Phil Parkinson: Wrexham set for ‘special’ US return

Wrexham, preparing for a second successive season in the Championship, meet Leeds in Tampa on …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime