google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes fyddar o Wynedd ‘wedi fy eithrio’ rhag etholiad y Senedd

Nid blaenoriaethau gwleidyddol y pleidiau yn unig sydd angen eu hesbonio yn Iaith Arwyddion Prydain, ond mae etholiad Senedd 2026 yn wahanol i rai blaenorol oherwydd bod etholaethau newydd sbon a system bleidleisio newydd i’w hesbonio.

Mae Martin Griffiths o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn cyflwyno gweithdai i grwpiau byddar o amgylch Cymru yn ddiweddar yn esbonio’r newidiadau.

“Mae gan rai pobl fyddar sy’n arwyddo sgiliau Saesneg da, ond byddai well gan nifer dderbyn y wybodaeth drwy BSL, ac yna gallu defnyddio Saesneg fel ail opsiwn,” meddai.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n arwyddo BSL yn cael trafferth gyda defnyddio Saesneg.

“Mae’n teimlo fel pe bai ewfforia pasio’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) hanesyddol wedi tawelu ychydig. Mae pobl yn meddwl ‘dyma ni eto, rydyn ni wedi cael ein gadael allan’.

“Beth wnaethom ni ddarganfod oedd bod tua wyth allan o 10 o bobl a fynychodd yn awgrymu na fydden nhw’n cofrestru i bleidleisio, neu os oedden nhw wedi cofrestru, nad oedden nhw am bleidleisio, ac roedd hynny yn siomedig iawn.”

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Former Warwickshire police officer found guilty of harassment

Check Also

Wales wildfires: Military deployed and arson arrests made

On Friday, Stephen Kinnock, Secretary of State for Wales, said military personnel had been deployed …

Finlay Tarling’s team withdraws as Volta a Portugal resumes

Finlay Tarling’s team, NSN Development, have withdrawn from the remaining stages of the Volta a …

Tanau’r Rhondda yn ‘gwbl frawychus’ a phedwar yn cael eu harestio

Mewn neges a gafodd ei gyrru i bob ffôn symudol ar draws Cymru a Lloegr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime