google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Tanau’r Rhondda yn ‘gwbl frawychus’ a phedwar yn cael eu harestio

Mewn neges a gafodd ei gyrru i bob ffôn symudol ar draws Cymru a Lloegr nos Wener dywedodd Llywodraeth y DU “na ddylai trigolion, tirfeddianwyr nac ymwelwyr ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a allai achosi tân”.

Mae hyn yn cynnwys “barbeciwiau tafladwy, pyllau tân, llosgyddion gardd neu dân gwyllt”.

Ychwanegodd y neges: “Gall hyd yn oed fflam fach ddatblygu’n gyflym yn dân gwyllt mawr, gan beryglu bywydau, cartrefi, busnesau ac ymatebwyr brys.”

Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gofyn am gymorth milwrol i helpu gyda’r ymateb.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener eu bod wedi cytuno i hyn ac yn “hynod ddiolchgar i’r fyddin am ddarparu’r gefnogaeth ychwanegol”.

Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod personél milwrol wedi cael eu defnyddio ar gyfer cymorth ymarferol ac i helpu i “leihau’r pwysau”.

Mae manwerthwyr hefyd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw roi barbeciwiau tafladwy o’r neilltu ar unwaith gan beidio â’u gwerthu am y tro.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Paddleboard tour victims' families share tributes

Check Also

AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ers …

Reform MS Sarah Cooper-Lesadd plans to defect to Plaid Cymru

Plaid Cymru’s ruling body is meeting Tuesday afternoon to discuss the defection of a Reform …

Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei ‘gyfeirio at yr heddlu’

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru. Mewn datganiad, dywedodd: “Dros y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime