google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymchwiliad heddlu i fideo ymosodiad disgyblion Caernarfon

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n ymchwilio i fideo sydd wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos bachgen yn cael ei ddyrnu a’i gicio gan fachgen arall.

Dywedodd Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon a Chyngor Gwynedd mewn datganiad eu bod yn cefnogi ymchwiliad yr heddlu a bod y digwyddiad y tu allan i oriau ysgol.

Ychwanegodd: “Nid yw’r ysgol yn goddef unrhyw fath o fwlio ac eir i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â gweithdrefnau.

“Mae lles holl ddisgyblion Gwynedd yn flaenoriaeth i ni.”

Dywedodd y llu eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad ddydd Mawrth diwethaf, 7 Mai.

Ychwanegon nhw fod swyddogion mewn cysylltiad â theulu ac ysgol y dioddefwr.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: “Rydym yn ymwybodol bod fideo o’r digwyddiad wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Wrth fod yr ymchwiliad yn parhau, byddwn yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio â rhannu’r fideo ymhellach, a’i dynnu o unrhyw dudalennau.

“Mae hyn er lles y disgybl dan sylw.”


Source link

See also  Barmouth: Woman dies and four others hurt in two-car crash

Check Also

Neath school sports pitch lights keeping kids awake

Neighbours living by a school are demanding it removes sports pitch floodlights amid claims they …

Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Roedd yna ymddiheuriad i chwaraewyr Caerdydd yn dilyn y gêm gan brif hyfforddwr Portsmouth, John …

Middlesex thump Glamorgan to secure home semi-final

Metro Bank Women’s One Day Cup League Two, Radlett Glamorgan 94: Gammon 26; Harley 4-27 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime