google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Hanes brywdr bywyd Ant Evans wedi’i gyfleu yn ei hunangofiant

Advertisements

Daeth rhagor o galedi i fywyd Ant pan gydag ysgariad ei rieni yn 2009, a bu farw ei fam o ganser.

Wedi i rieni Ant Evans ysgaru fe benderfynodd y llys teulu mai’r peth gorau oedd gwerthu’r cartref a rhannu pris yr eiddo rhwng ei fam a’i dad, dyma ddechrau ar gyfnod anodd iawn.

Oherwydd y dirwasgiad ariannol, doedd ddim llawer o ddiddordeb yn y byngalo. Aeth Ant i’r coleg heb iddo ef a’i fam orfod symud cartref. Yna, bu’n gofalu amdani ar ôl iddi gael diagnosis o ganser.

Ar ôl marwolaeth ei fam, roedd rhaid i’r bachgen 24 geisio chwilio am gartref iddo ei hun ac ei frawd iau.

“Yn anffodus, ro’n i’n profi cymaint o rwystrau fel rhywun sy’n ddi-waith ac yn fyfyriwr, aoedd yn chwilio am dŷ,” meddai Ant.

Doedd neb eisiau tenantiaid ar fudd-daliadau, efo anifeiliaid anwes, ac roedd ei dad yn pwyso arno i gael gwared ar y tŷ er mwyn cael y pres.

“Yn anffodus, mi wnaeth 22 Rhagfyr 2013 gyrraedd a doedden ni heb ddod o hyd i unlle i fyw, a’r tŷ wedi gwerthu, a dyma’r cwpwl oedd wedi prynu’r lle yn glanio ar stepen drws yn barod i symud fewn.”

Aeth ei frawd iau i aros gyda pherthnasau yn Harlech, ond doedd gan neb le i Ant am fod ganddo’r ci a’r gath. Mi aeth at hanner brawd a chwaer-yng-nghyfraith yn Lerpwl am chwe mis, a chysgu ar soffa.

“Yn amlwg ro’n i yn wynebu’r un rhwystrau o ran dod o hyd i rywle i fyw.”

Oedd posib troi at ei dad am gymorth, felly? “Na,” meddai.

“Fo oedd wedi bod yn cwffio am werthiant y tŷ, ac mi wnaeth o briodi ei feistres ryw saith mis wedi marwolaeth Mam.

“Doedd ‘na fawr o Gymraeg rhyngon ni ar y pryd. Yn dilyn cyfarwyddiadau gan Mam, ‘dw i’n gwrtais efo fo bob tro ‘dw i’n ei weld o, ond ‘dw i ddim yn meddwl byddai neb yn dweud bod gynnon ni berthynas tad a mab gonfensiynol.”


BBC News

Views: 0

See also  Bod ar ddialysis fel bod 'mewn carchar'

Check Also

Matthew Rhys praises 'tireless' parents of friend who died after rugby tackle

The father of late Wales U19s rugby player Paul-André Blundell is honoured with an MBE. …

Regan Grace: Why Wales’ dual-code wing will not quit despite injury catalogue

In the end, it was try-scoring highs that convinced Grace to keep going. “It’s a …

Trais yn ysgolion Cymru’n ‘argyfwng iechyd a diogelwch cyhoeddus’

Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Cymru, Neil Butler, bod yr undeb wedi’i “synnu o ddarganfod nad yw …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cassinox giriş adresi cassinox güncel adres cassinox resmi.