google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Miriam Isaac: ‘Mae mwy i rhyw na rhyw i gael plentyn’

166593a0 4519 11f0 a47c 8d83878a31c9.jpg

Advertisements

Ac mae hyn yn cynnwys trafodaeth ar y rhaglen am wahanol fathau o ryw, meddai Miriam: “Mae’n agor y drws yna fod ‘na fwy na jest rhyw syth a rhyw i gael plentyn. Mae gymaint mwy iddo fo.

“Mae’n bwysig i siarad am y pethau yma, yn enwedig yn y Gymraeg achos ‘da ni’n bobl reit barchus a ddim yn rhannu lot.

“A gobeithio fydd yn helpu pobl ac addysgu pobl mewn ffordd hwyl.”

Mae’r gyfres yn canolbwyntio ar bob elfen o ryw a rhywioldeb ac yn ymuno gyda Miriam i gyflwyno ac i rannu arbenigedd mae’r digrifwr Carwyn Blayney ac hefyd Christian Webb, sy’n arbenigwr iechyd rhywiol a lles, a Ffraid Gwenllian, sy’n gweithio fel meddyg iau ac yn cynnal y platfform addysg rhyw Secs ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ac mae Miriam yn dweud fod hi wedi dysgu dipyn drwy ffilmio’r gyfres: “Mae rhai o’r rhaglenni yn sôn am berthnasau ac am rywioldeb a chydsyniad. Ac hefyd kinks – ‘da ni’n trio trafod lot o bynciau gwahanol.

“Mae ‘na kinks o’n i ddim yn gwybod oedd yn bodoli so ges i’n addysgu. Ges i agoriad llygad! Ond y fwya’ o wybodaeth sy’ gyda chi y gorau.

“O’n i wedi synnu bod cymaint o bobl yn rhannu lluniau heb consent. O’n i’n meddwl bod hwnna yn rili shocking – ti’n ymddiried yn rhywun pan ti’n anfon y pethau yna a does dim cywilydd yn hwnna os ‘da chi’n cydsynio i’r peth.

“Dyna pam mae’r rhaglen yma wedi cael ei greu – bod pobl yn dysgu.

“Mae’n cyrff ni’n newid, mae’n perthynas ni efo rhyw yn newid. Mae ynglŷn a chael trafodaeth iach am y pethau yma.”


BBC News

Views: 0

See also  Gwynedd: Datblygiad tai fforddiadwy i 'newid cymeriad pentref'?

Check Also

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Mae rhagor o artistiaid wedi eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni. BBC …

Aaron Ramsey: Mikel Arteta an inspiration as ex-Wales and Arsenal star eyes management

Ramsey has been part of Craig Bellamy’s Wales staff in an unofficial capacity in recent …

‘Hwb i’r economi a’r Gymraeg’ – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Wrth i’r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
It takes less than 60 seconds to set up your professional profile.