google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gêm gyfartal i Gymru yng ngêm gyntaf Bellamy wrth y llyw

Gêm gyfartal oedd hi i Gymru yng ngêm gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw, gyda sgôr o 0-0 yn erbyn Twrci.

Dyma gêm gyntaf Cymru yn eu hymgyrch newydd yng ngrŵp 4 o’r ail haen – Cynghrair B – o Gynghrair y Cenhedloedd, sydd hefyd yn cynnwys Gwlad yr Iâ a Montenegro.

Roedd hi’n ddechrau cyffrous i dîm Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda’r cyfle cyntaf yn dod o beniad gan Aaron Ramsey funudau wedi’r gic gyntaf.

Roedd y Cymry’n rheoli’r meddiant am yr hanner cyntaf, yn chwarae ar y droed flaen gyda symudiadau da ar draws y cae.

Wrth nesáu at hanner amser, roedd y pwysau ar Twrci yn cynyddu, gyda Sorba Thomas yn rhoi’r bêl yn y rhwyd, ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu am ei fod yn camsefyll.


Source link

See also  Mum meets rescuers who saved baby from burning car in Merthyr Tydfil

Check Also

Coventry Blaze 3-2 Cardiff Devils: Home side secure comeback Challenge Cup win

Cardiff Devils twice let slip a one goal lead as they were beaten 3-2 at …

Ateb y Galw: Ant Evans

Yr ieithydd a’r awdur Ant Evans, sy’n wreiddiol o Harlech ond sydd bellach yn byw …

Prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyfarfod yng Nghaerdydd

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime