google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyfarfod yng Nghaerdydd

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol o sicrhau newid ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, a’i fod yn credu’n gryf yn nyfodol yr undeb.

“Mae’r DU ar ei orau pan mae pobl yn dod ynghyd, yn cyd-weld ac yn datrys problemau gyda’n gilydd – yn hytrach na chreu rhaniadau.

“Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i deuluoedd, gan gynnwys lleihau’r pwysau ar gyllidebau aelwydydd a sicrhau diogelwch economaidd. yn hytrach na chanolbwyntio ar drafodaethau cyfansoddiadol.”

Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: “Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr obsesiwn yma gydag annibyniaeth, dylai’r prif weinidog fod yn ffocysu ar ddelio gyda’r argyfwng sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd a’r cwymp mewn safonau yn ein hysgolion.

Yn ôl llefarydd ar ran Reform UK Cymru, mae’r cyfarfodydd ddydd Llun yn dangos, “i Blaid Cymru, bydd gwella ein hysgolion, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus bob tro dod yn ail i’r prif amcan o chwalu Prydain”.

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol y DU: “Dylai Plaid Cymru fod yn canolbwyntio ar eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhai o’r amseroedd aros gwaethaf yn y DU ac economi sydd wedi tanberfformio ers yn llawer rhy hir.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Emma Little-Pengelly, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, nad oes gan Michelle O’Neill unrhyw hawl i bortreadu ei hun fel cynrychiolydd y prif weinidog yn y cyfarfod yma.

“Rydyn ni wedi rhybuddio dro ar ôl tro y byddai gweriniaethwyr yn ceisio arfogi swydd y prif weinidog.

“Mae’r ffaith bod gweinidog Sinn Fein yn barod i ddefnyddio ei rôl i geisio cael gwared a Gogledd Iwerddon a dod a’n undeb i ben – mae’n rhaid i hyn fod yn ddeffroad i unoliaethwyr ar draws Gogledd Iwerddon.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Ateb y Galw: Elis Derby

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy praises resolve in Boro draw

Cardiff remain in the bottom half of the table after the draw and, after 11 …

Clayface’s Tom Rhys Harries says prosthetics helped performance

Actors are often said to be the face of the film, but in Tom Rhys …

Black Lion 14-39 Ospreys: Welsh side ease to Challenge Cup win in Georgia

Black Lions: Tsirekidze; A Tabutsadze, L Tabatadze, Akhvlediani, R Makhatadze; Babunashvili, Spenderashvili; Abdushelishvili, Kvatadze, Khatiashvili, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime