google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw o’r newydd am ymchwiliad cyhoeddus i gamdriniaeth gan Neil Foden

Fe wnaeth Cabinet Cyngor Gwynedd gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth ers i bedwar aelod ymddiswyddo gan gyfeirio at “wahaniaeth sylfaenol rhwng y pedwar a’r arweinyddiaeth”.

Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd y Cynghorwyr Beca Brown, Elin Walker Jones, Dafydd Meurig a Berwyn Parry Jones eu bod yn “ymbellhau eu hunain oddi wrth y sylwadau gafodd eu gwneud gan [arweinydd Cyngor Gwynedd] Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C”.

Yn y cyfweliad hwnnw fe wrthododd Mr Siencyn ag ymddiheuro i ddioddefwyr Foden, er iddo dderbyn fod gwersi i’w dysgu.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, fe ymddiheurodd Mr Siencyn yn ddiffuant i’r dioddefwyr gan ymuno â’r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.

Fe ddywedodd hefyd y byddai yn ystyried ei sefyllfa dros y penwythnos.

Doedd dim arwydd o benderfyniad pendant o ran hynny ddydd Mawrth wrth i Mr Siencyn gadeirio’r cyfarfod.

Mae Newyddion S4C ar ddeall bod aelodau etholedig grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn cwrdd nos Fercher i drafod y sefyllfa.

Mae cwestiynau o hyd am ddyfodol Mr Siencyn fel arweinydd, gyda chyfarfod nos Fercher yn debyg o roi arwydd o’r ffordd ymlaen.


Source link

Views: 0

See also  Keir Starmer yn ymddiheuro i AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts

Check Also

Welsh leaders to make final pitches to voters ahead of crucial election

Wednesday will be the last day for Wales’ parties to campaign for support ahead of …

Nigel Farage says Wales has become a 'basket case' under Labour

Reform’s leader called for voters to leave Labour in “smithereens” at his party’s final Welsh …

Wrexham AFC: Rob Mac and Ryan Reynolds face Kop expansion challenge

Highways officers say the area around the SToK Cas Ras cannot cope with the extra …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Free ad network for.