google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 21 2026

Diwrnod ola’r ymgyrchu cyn Etholiad Senedd Cymru

Ond tra bod polisïau a blaenoriaethau yn benthyg eu hunain at gydweithio, mae’r ymgyrch hefyd wedi dangos y gallai gwleidyddiaeth pur wneud y cydweithio hynny’n anodd.

Mae Eluned Morgan wedi dod o dan y lach droeon wrth orfod amddiffyn record 27 mlynedd Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru, er bod llai na dwy flynedd ers iddi ddod yn Brif Weinidog.

A fyddai pleidiau sydd wedi treulio cymaint o’r ymgyrch yn beirniadu record Llafur ac addo newid yn awyddus i gydweithio os yw’r naratif hwnnw yn llwyddo i ddisodli Llafur?

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai’n ffafrio arwain llywodraeth leiafrifol, fel y gwnaeth yr SNP yn yr Alban yn 2007, os na chaiff ei blaid fwyafrif – ond byddai angen i Blaid Cymru fod y blaid fwyaf i wneud hynny ag awdurdod, a bod yn ddigon agos i’r trothwy o 49 sedd i wneud hynny ag unrhyw sefydlogrwydd.

Mae Reform UK yn wynebu tipyn mwy o dalcen caled i ffurfio llywodraeth os na fyddan nhw yn cael mwyafrif ar eu pen eu hunain, gyda phob plaid heblaw’r Ceidwadwyr yn dweud na fyddan nhw’n barod i helpu Dan Thomas a’i dîm i ffurfio llywodraeth.

Mae’r Ceidwadwyr wedi ceisio portreadu eu hunain gydol yr ymgyrch fel dewis amgen a phrofiadol yn wyneb twf Plaid Cymru a Reform, ond ar ôl colli cynifer o wleidyddion, ymgyrchwyr a staff i Reform yn y flwyddyn ddiwethaf, a rhai arolygon barn yn awgrymu chwalfa lwyr i’r blaid, bydd y blaid wedi cael etholiad da iawn os oes digon o aelodau ganddyn nhw i gael dylanwad ar bwy fydd y blaid nesaf i lywodraethu Cymru.

Gallai’r etholiad hwn weld y Gwyrddion yn cael eu haelodau etholedig cyntaf ym Mae Caerdydd, a’r arweinydd yng Nghymru Anthony Slaughter yn gobeithio y bydd digon i greu grŵp swyddogol yn y Senedd fan lleiaf – sef ennill pum sedd dan y drefn newydd.




BBC News

Advertisements

See also  Pembrokeshire diver swims with thousands of puffins on Skomer Island

Check Also

Gohirio newidiadau treth y cyngor yng Nghymru tan 2032

Ar ran Reform, ymatebodd Cai Parry-Jones AS: “Er ein bod yn croesawu unrhyw oedi cyn …

Welsh council tax revaluation to be delayed to 2032

Wales’ finance minister has said the Welsh government intends to delay a revaluation of homes …

Jane Dodds i gamu i lawr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Dywedodd Ms Dodds, “yn dilyn etholiad mis Mai, rwyf wedi meddwl yn ddwys am yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime