google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gyrfa actio ddim yn bosib heb fynediad di-dâl i’r celfyddydau

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn yn ardal Beddau, Rhondda Cynon Taf, ymhlith miloedd sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni addysgol Opera Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Bethan Jones, athrawes sy’n gyfrifol am y celfyddydau yn yr ysgol fod cael y cyfle i weithio gyda chanwr opera proffesiynol ar sgiliau perfformio wedi bod yn gyfle da i’r plant ac wedi helpu i fagu hyder ymhlith y disgyblion tawelach.

“Mae wedi bod yn gyfle i’r plant wneud rhywbeth arall – efallai rhywbeth na fydden nhw wedi meddwl amdano ac yn sicr rhywbeth nad oedden nhw wedi ei brofi o’r blaen.

“Roedd ein disgyblion Blwyddyn 6 hefyd yn gallu treulio’r diwrnod yng Nghanolfan y Mileniwm a dysgu am sut mae’r goleuadau’n gweithio, sut mae’r sain yn gweithio ac roedden nhw’n cael syniadau am y swyddi hynny yn ogystal â’r rolau ar y llwyfan.”

Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd o 8.5% wedi bod yn y gwariant ar gyfer y sector diwylliant eleni.

Ychwanegodd llefarydd: “Mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 eisoes wedi’i chyhoeddi, gyda dros £33.5m o gyllid a dyraniad cyfalaf uwch ar gyfer y celfyddydau.

“Mi fydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer 2026-27 ym mis Ionawr.

“Yn ogystal â’r £8m a ddyrannwyd i 40 o sefydliadau celfyddydol eisoes eleni, yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd £2.5m pellach ar gyfer ein sector creadigol.”


BBC News

Advertisements

See also  Records falsified after Gresford colliery mining disaster on display

Check Also

Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain ‘erchyll’

Ers y digwyddiad mae Ms Griffiths wedi bod yn mynd â Neli yn ôl i’r …

Wrexham baffled by Liberto Cacace’s latest Liberto Cacace injury setback

“Our medical department has done everything, and so has Libby himself. We will get there …

Albania v Wales: Rhian Wilkinson wants clean sheet in Women’s World Cup play-off semi-final first leg

Wales are without nine regular members of their squad for the next stage of their …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime