google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cylchgrawn ffilmiau yn cynnwys Leisa Gwenllian ar restr sêr y dyfodol

Dywedodd Leisa fod hyn yn gyfle arbennig all, o bosib, agor drysau iddi yn y dyfodol.

“Fyswn i bendant ddim yma oni bai am Effi, a dwi’n teimlo’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi gallu chwarae’r rhan yna a’i fod o wedi cael ei weld gan gymaint o bobl.

“Dwi mor falch i gael fy nghynnwys ar y rhestr gan ei fod yn gydnabyddiaeth, nid yn unig o fy ngwaith i, ond hefyd i’r ffilm. Mae’n hwb i sinema iaith Gymraeg hefyd.”

Ychwanegodd fod y diwydiant ffilm yng Nghymru mewn cyfnod cyffrous ar hyn o bryd a bod pobl yn dechrau gweld nad yw’r iaith yn rhwystr.

“Be mae Effi wedi ei brofi yw bod ‘na alw am ffilmiau Cymraeg,” meddai.

“Mae pobl yn hapus iawn i wylio ffilmiau mewn ieithoedd eraill gydag is-deitlau, felly pam ddim gwneud hynny yn Gymraeg?”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Yr holl ymateb i gyhoeddiad annisgwyl Rishi Sunak

Check Also

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

‘Hwb sylweddol’ i’r cynlluniau i ymestyn rheilffordd Llyn Tegid i’r Bala

Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd bod …

‘Amser wedi dod i ystyried cau Swyddfa Cymru yn San Steffan’ – Drakeford

Wrth gael ei holi a fyddai’n hapus i gael gwared â Swyddfa Cymru, dywedodd Mr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime