google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Methiant IVF: ‘Digon oedd digon allwn i ddim cymryd mwy’

Advertisements

Bu’n rhaid i Sarah a Marc o Brestatyn fynd yn breifat hefyd am fod gan Marc blant o berthynas arall, ond ar ôl gwario miloedd o bunnau, aflwyddiannus fu pedair triniaeth IVF.

“Fe wnes i feichiogi ddwywaith ond colli’r plant yn gynnar, ac anghofia i fyth y profiad o orfod nodi ar ddarn o bapur mai fi oedd mam y babi,” meddai Sarah wrth siarad â Cymru Fyw.

“Mae’r driniaeth yn anodd iawn – yr aros i ddechrau i weld faint o embryos sydd yna ac yna gweld os oes yna feichiogrwydd.

“Dwi wedi cadw llun o bob dim – yr embryos a’r profion beichiogrwydd positif ac mi wnes i hyd yn oed enwi’r embryos.

“Ond digon oedd digon, allwn i ddim cymryd mwy. Roeddwn i’n teimlo mor isel a dwi’n gredwr cryf fod pethau yn digwydd am reswm.

“Ond fy nghyngor i yw bod angen cyfnod i alaru – gall hynny fod yn flwyddyn neu ddwy.”


BBC News

See also  Disgwyl cadarnhad mai Eluned Morgan fydd arweinydd Llafur Cymru

Check Also

Dyn tân o Nefyn ar y rheng flaen yn Sbaen

“Be sy’ ‘di digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yn Sbaen ydi mae ‘na bobl yn …

Cofeb i goffáu 37 o lowyr a fu farw mewn glofa yn Sir Gâr

Bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio ddydd Sul i goffáu 37 o lowyr a fu …

Cordia: ‘Anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael’

“Mae’n anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael wrth edrych yn ôl. Os bysa rhywun …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime