google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl cadarnhad mai Eluned Morgan fydd arweinydd Llafur Cymru

Mae angen pleidlais ffurfiol ar lafar yn y Senedd cyn i’r prif weinidog newydd gael ei gadarnhau.

Gydag un ymgeisydd yn unig hyd yma, gallai Mr Gething roi’r gorau iddi yn gynt na’r disgwyl – gan olygu bod angen galw’r Senedd yn ôl o doriad yr haf.

Cafodd BBC Cymru wybod yn gynharach yn yr wythnos fod trafodaethau wedi digwydd rhwng swyddfa’r prif weinidog, Llafur Cymru a’r Senedd.

Byddai angen i’r Senedd gael cais gan Lywodraeth Cymru i alw’r Senedd yn ôl.

Er y byddai cais o’r fath yn cael ei ganiatáu, nid yw cynlluniau llawn yn cael eu gwneud eto ac nid oes dyddiad ar gyfer galw aelodau yn ôl.

Mae’r bleidlais yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o’r Senedd ddweud ar lafar pwy ddylai fod yn brif weinidog yn eu barn nhw, ac mae rhai ohonynt ar wyliau dramor ar hyn o bryd.

Mewn egwyddor fe allai’r wrthblaid, gydag union hanner y niferoedd yn y Senedd, atal Ms Morgan rhag cael ei chadarnhau trwy gefnogi un ymgeisydd.

Ond nid yw hynny’n mynd i ddigwydd a bydd gan Lafur y niferoedd i gael cadarnhad o’u prif weinidog newydd.

Mae Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu ymatal, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn bwriadu enwebu eu harweinwyr eu hunain.


Source link

Advertisements

See also  Man appears in court over attempted murder

Check Also

Llanon ‘tropical jungle’ must relocate after neighbours complain

A man who lives in a log cabin and keeps wallabies, mongooses, porcupines, parrots and …

Ex-first minister Mark Drakeford suggests Wales Office should go

The future of the Wales Office has been the subject of regular speculation since devolution, …

Newport County news: Exiles at full strength for Colchester after sickness outbreak

Newport County have recovered from a sickness bug that led to players being ordered to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime