google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw am ymgyrch genedlaethol ar ymddygiad disgyblion

D20e2b30 2b74 11f0 a795 f5538a3febec.png

Dywedodd Dyfrig Rees, dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd, ei fod yn croesawu’r adroddiad.

“Fi’n credu bod ‘na concern ar draws y sector am ymddygiad a dirywiad ymddygiad,” meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

“Ond bydde ni hefyd yn dweud fod lot fawr o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac mae lot o ysgolion hefo systemau a strategaethau sy’n golygu bod ymddygiad yn gallu bod yn dda.”

Dywedodd Stuart Williams o’r undeb dysgu NEU fod canfyddiadau’r adroddiad yn cyd-fynd â be mae aelodau wedi bod yn dweud wrth yr undeb.

“Fe wnaethon ni gynnal arolwg y mis diwethaf a ddaru 87% o aelodau ddweud bod problem hefo ymddygiad a’r ffordd mae’n cael ei drin.

“Ond dwi hefyd yn cytuno hefo Dyfrig mai nifer fach o ddisgyblion sydd yn achosi’r problemau yn yr ysgol.

“Ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn a sicrhau bod digon o gyllid ar gael i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw gael darparu cymorth iechyd meddwl i blant – a hefyd darparu mwy o gyllid i ysgolion, achos ar hyn o bryd, mae ysgolion yn mynd trwy gyfnod diswyddiadau os ‘di’r cyllid ddim yn ddigonol i gadw athrawon yn eu gwaith ym mis Medi.

“Felly mwy o staff sydd angen, ddim llai o staff, ac mae hynny am gael effaith ar ddarpariaeth cymorth i ddisgyblion.”


BBC News

Advertisements

See also  Eluned Morgan yn gwrthod cefnogi toriadau Datganiad y Gwanwyn

Check Also

Aberfan: Atgofion y gweinidog a’r disgybl ysgol fu yno

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd. “Oedd rywbeth …

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac …

Mari Grug: Cyngor ar sut i drafod canser gyda phlant

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mari: “[Wnaeth e] …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime