google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac sy’n gallu recordio fideo. Nid oes gan sbectol Mr O’Connell gamera.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, nad oes digon o wybodaeth eto am yr hyn y gallai’r sbectol ei wneud, a dywedodd fod angen i ASau gael mynediad cyfartal i’w defnyddio.

“Yr hyn rwy’n galw amdano yw gwaharddiad ar ddefnyddio sbectolau clyfar yn y Senedd nes bod rheolau a rheoliadau ar waith sy’n eu safoni, ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad atynt – os dyna maen nhw eisiau,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywydd y Senedd: “Mae technoleg sy’n datblygu’n gyflym, fel sbectolau clyfar, yn cynnig cyfleoedd i wella hygyrchedd a chefnogi ASau yn eu gwaith, ond rydym yn cydnabod eu bod hefyd yn codi pryderon.

“Mae adolygiad o’r defnydd o’r dechnoleg hon yn y Senedd ar y gweill, a byddwn yn cyflwyno’r casgliadau yn fuan.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Cofio Ernie Walley: O Gaernarfon i Tottenham Hotspur yn 17 oed

Check Also

Anglesey almshouses to be converted into ‘affordable’ homes for young people

A Grade-II listed building that once provided charitable housing is set to be converted into …

Chwareli llechi hanesyddol a safle atyniad Zip World ar werth

Mae’r safle’n rhan o ardal llechi Gwynedd gafodd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd …

Merched o’r gogledd am droi profiadau anodd canser yn rhai cadarnhaol

Yn ôl Sally Roberts sy’n ffotograffydd o Dremeirchion ac yn sylfaenydd y calendr Breast Friends, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime