google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dysgu Iaith y Nef i Jess Fishlock’

Dwi’n hen gyfarwydd â Jess y pêl-droediwr, wedi dilyn ei gyrfa dros y blynyddoedd ac wedi ei chyfweld sawl gwaith ar ddiwedd emosiwn gêm. Ond mae’r cyfle i dreulio wythnos yn ei chwmni yn un sy’n cyffroi – i ddymchwel y ffiniau anochel sy’n bodoli rhwng newyddiadurwr a chwaraewr rhyngwladol.

A dydy hi ddim yn siomi. Mae hi’n hyfryd – yn hwyl. Mewn wythnos lle mae hi wedi teithio o America i chwarae dwy gêm ryngwladol, torri record sgoriwr goliau Cymru a chael gradd anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, mae hi’n ymroi 100% i’r her. Fe fyddai eraill wedi ymlâdd.

Ond mae’r pêl-droedwyr proffesiynol ‘ma yn gymeriadau unigryw. Dyna pam eu bod nhw’n cyrraedd y brig.

Prin oedd Cymraeg Jess ar ddechrau’r daith – er mae angen rhoi clod arbennig i gapten newydd Cymru Angharad James. Am arweinydd! Yn ei rhoi ar ben ffordd yn ystod eu cyfnod gyda’r garfan genedlaethol yr wythnos flaenorol. Gwych gweld!

Wna i ddim datgelu gormod am yr hyn fuon ni’n ei wneud wrth deithio’r wlad ond gyda dwy sy’n ymwneud â chwaraeon yn mynd ben-ben a’i gilydd… wel, beth ych chi’n ei ddisgwyl ond elfen gystadleuol i’r dysgu?

O’r padel i’r pêl-droed Americanaidd ‘s’dim angen gradd anrhydeddus i weithio mas taw yr un seren odd yn dod i’r brig bob tro! Gutted.

Pan mae rhywun yn ymroi i sialens newydd yn aml mae’r cwestiwn yn codi. Pam? Pam bod Jess sy’n byw gyda’i gwraig filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn America eisiau dysgu Cymraeg?


Source link

Views: 0

See also  Teimlad 'sbesial' i gôr bechgyn Glantaf ar Britain's Got Talent

Check Also

Newport murder investigation after woman found dead after altercation

A murder investigation has been launched after a woman was found dead following a street …

Wales midfielder Charlie Estcourt joins English third-tier side Fulham

Wales midfielder Charlie Estcourt has joined English third-tier side Fulham women for 2026-27. The 28-year …

Andy Gorvin to lead Glamorgan in One Day Cup

Seam-bowler Andy Gorvin will lead Glamorgan in the 2026 Metro Bank One-Day Cup (ODC). The …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime