google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Wrecsam wedi’i ladd gan daflegryn yn Wcráin

Dywedodd Heddlu Cenedlaethol Wcráin yn gynharach fod corff dyn 40 oed o Brydain wedi’i ganfod yn rwbel y gwesty am 18:35 amser lleol (16:35 BST) ddydd Sul ar ôl bod yn chwilio am 19 awr.

Anfonodd arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky ei “gydymdeimlad at deulu a ffrindiau” Ryan Evans.

“Dyma’r braw dyddiol parhaus gan Rwsia,” meddai.

Dywedodd Swyddfa Erlynydd Cyffredinol Wcráin mewn datganiad ei bod yn debygol bod y gwesty wedi’i daro gan daflegryn Iskander-M.

Dim ond tua 12 milltir yw Kramatosk o rannau o Wcráin sydd wedi’u meddiannu gan Rwsia, ac mae wedi dod o dan ymosodiadau rheolaidd, gyda phobl gyffredin yn cael eu lladd, gan gynnwys yr awdur o Wcráin, Victoria Amelina.

Mae milwyr Rwsia wedi bod yn gwneud datblygiadau araf ond cyson yn y dwyrain yn ystod y misoedd diwethaf, gydag ymosodiad diweddar Wcráin i Rwsia yn cael ei weld fel ymgais i dynnu milwyr o’r frwydr yn y dwyrain.


Source link

Advertisements

See also  Wales v Australia: Prop Sisilia Tuipulotu returns from injury for Wales' two-Test series in Australia

Check Also

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Cardiff police chase drug dealer posing as fast food delivery courier

This is the moment a drug dealer tried to evade police on foot while posing …

Sefyllfa tai cymdeithasol Pen Llŷn yn ‘annheg’ ar bobl ifanc lleol

“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn”, meddai’r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime