google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dementia: Idwal ‘ddim y dyn nes i briodi’ 53 mlynedd yn ôl

Dywed Moira Owens bod ei gŵr yn “reit dda” ar hyn o bryd, ac yn elwa o gymryd rhan yng nghweithgareddau Dementia Actif Gwynedd.

“Trwy rheini ydw i wedi dod i wybod am bethau er’ill,” meddai, “‘Dan ni’n ‘neud grŵp cerdd [ond] mae’r sefyllfa efo rhai o’r gofalwyr eraill yn ofnadwy.

“Os ‘dach chi’n byw mewn lle anghysbell, does yna ddim gofal yno. Tydyn nhw cau dod yna. Ma’ ‘na lot o betha’ eisiau cael ei ail-wneud.”

Dydy pobl ddim yn sylweddoli, medd Moira, bod yna 103 o wahanol fathau o dementia.

Dydy Idwal, meddai, “ddim y dyn nes i briodi” 53 mlynedd yn ôl.

“‘Di o ddim isho gwneud petha’, mae o’n mynd yn flin. Mae ei bersonoliaeth o wedi newid. Mae o wedi newid ffordd o fyw.”

Mae dementia, meddai Matthew Hawkins, “yn effeithio’n emosiynol ac yn ariannol ar y teulu, a’r system ehangach”, ac yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau iechyd.

“Dan ni’n gwybod bod un o bob chwech gwely ysbyty yn cael ei ddefnyddio gan rhywun gyda dementia.

“Mae pobl heb ddiagnosis dementia, ond sydd hefo dementia, yn fwy tebygol o fynd i A&E, ac mae’n cael effaith enfawr ar yr holl system.


Source link

Views: 0

See also  Council playing Russian roulette with our lives

Check Also

‘Degawd ers Brexit mae’r effeithiau’n dal i gael eu gweld o hyd’

Wrth gwrs fe gafodd Brexit effaith amlwg ar wleidyddiaeth Ewrop gyfan hefyd, gyda’r canlyniad yn …

O Sweden i Ddyffryn Conwy i dderbyn gwobr mewn eisteddfod leol

“Gwnaeth o i gyd ddechrau pan ‘nes i osod her i’r dysgwyr, maen nhw’n griw …

Gareth Bale: Why former Wales and Real Madrid star wants to go from icon to investor

A future that, he says, has always intrigued him – and perhaps not dissimilar to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Site maps coconut point residences. Link.