google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

O Sweden i Ddyffryn Conwy i dderbyn gwobr mewn eisteddfod leol

Advertisements

“Gwnaeth o i gyd ddechrau pan ‘nes i osod her i’r dysgwyr, maen nhw’n griw da iawn, a mond ‘di bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi,” meddai Delyth Roberts, tiwtor Cymraeg Rik.

“Felly dyma fi’n dweud ‘be am i chi gystadlu yn fy eisteddfod leol i… meddwl bysa fo’n hwyl iddyn nhw, ac mae ganddyn nhw ddigon o Gymraeg i ymateb i ofynion y gystadleuaeth.”

Yn fuan wedi’r cais, dywedodd iddi dderbyn gwaith ei disgybl, Rik – a oedd yn drawiadol.

“Do’n i methu credu’r peth, roedd o’n anhygoel!”

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu darn yn hel atgofion o’i ddiweddar gefnder yn ei gyflwyno i Gymru a’r iaith Gymraeg.

Fe ddaeth Rik i’r eisteddfod er mwyn cael blas o’r iaith a’i diwylliant, a heb yn wybod iddo, fe oedd wedi ennill y gystadleuaeth.

Fe geisiodd Delyth esbonio iddo mai eisteddfod leol oedd hon, ac iddo beidio disgwyl stondinau fel yr Eisteddfod Genedlaethol!

“Mi gyrhaeddodd ddydd Gwener a mi gyfarfon ni tro cynta’ a dod yn ffrinida’ yn syth ac roedd o’n siarad Cymraeg â mi drwy nos Wener.”

Wrth sôn am y foment pan dderbyniodd y wobr, dywedodd iddo “garlamu i’r llwyfan” a’i fod o “wrth ei fodd”.

Wedi iddo gael modd i fyw yng ngogledd Cymru, mae Rik eisoes yn trefnu ei drip nesaf yma.


BBC News

See also  Ex-Bridgend councillor Darren Brown jailed for wife murder attempt

Check Also

Jak Jones shocks Mark Selby to win British Open title

Jak Jones claimed the second ranking title of his career by beating four-time world champion …

Cancer survivors living with chemo hair loss celebrate resilience

BOLD began in 2022, when Lisa Allen from The Pink Ribbon Foundation met photographer Caroline …

More funding needed to boost construction jobs for young people – housing boss

A long-term plan and additional funding is needed to create more placements for young people …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime