google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Clwb Rygbi Nant Conwy yn sefydlu grŵp i helpu gyda iechyd meddwl

Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod cyfradd hunanladdiad y llynedd ar ei uchaf ers 1999 gyda 11.4 marwolaeth fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2023.

Roedd y gyfradd yn uwch ymysg dynion – 17.4 marwolaeth fesul 100,000 o’r boblogaeth – eto yr uchaf ers 1999.

Ymysg merched roedd y gyfradd yn 5.7 marwolaeth fesul 100,000 o’r boblogaeth, yr uchaf ers 1994.

Roedd y gyfradd yn uwch yng Nghymru (14 marwolaeth fesul 100,000) nag yn Lloegr (11.2 fesul 100,000).

Fel rhan o ymgyrch Dal Dy Dir, bydd rhai o aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy yn gwisgo dillad a breichledau i roi gwybod i eraill y gallan nhw helpu gyda chymorth iechyd meddwl.

Mewn cydweithrediad â sefydliad Speakeasy Club, sy’n gweithio yn y maes iechyd meddwl a chwaraeon, bydd mainc yn cael ei phaentio’n binc ac arni god QR i bobl fedru ei sganio’n ddirgel os ydyn nhw’n dymuno.

Bydd y cod yn arwain y darllenydd at wefannau fel y Samariaid a Sefydliad DPJ.


Source link

See also  Tri dyn wedi'u cyhuddo o herwgipio yn Llanybydder

Check Also

Bafta Cymru 2025: Madfabulous leads nominations with six

Feature film Madfabulous – which tells the story of an eccentric 19th Century Welsh aristocrat …

Swansea City transfer news: Manchester City winger Jeremy Monga joins on loan

Monga is a product of Leicester’s academy and made his senior debut as a 15-year-old …

Colli Islwyn Owen: ‘Dagrau bob dydd am flwyddyn ond mae’n dod yn haws’

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori hon beri gofid Roedd 4 Medi 2024 yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime