google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tri dyn wedi’u cyhuddo o herwgipio yn Llanybydder

Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o herwgipio yn dilyn digwyddiad yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn ardal Brynteg, Llanybydder ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar ddyn oedd wedi teithio i’r ardal.

Cafodd person ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod y tri dyn, un yn 20 oed a dau ddyn arall yn 22 oed, wedi eu harestio ar yr un diwrnod ac wedi eu cyhuddo o herwgipio ac o achosi anaf corfforol difrifol yn fwriadol.

Mae’r ymchwiliad yn parhau er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.

Bydd plismyn ychwanegol yn yr ardal wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu.


Source link

See also  Welsh Ambulance Service declares critical incident

Check Also

Thug jailed for campsite attack and crime gang locked up

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Galw am ohirio cynllun dangos pasport wrth deithio ar fferis i Iwerddon

Gan bod y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhan o’r Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel …

No unconditional support to arms industry, says Welsh government

The Defence Security Resilience Cymru conference opened on Thursday at the International Convention Centre, near …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime