google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwrdd iechyd y gogledd wedi tan-gyfrif rhestrau aros o dros 11,000

Advertisements

O’r holl ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, mae amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd ymhlith y rhai sy’n cael y sylw mwyaf.

Maen nhw’n galluogi cleifion, staff iechyd a gwleidyddion i ddeall perfformiad y gwasanaeth ac i farnu a yw’r targedau sy’n cael eu gosod gan y llywodraeth yn cael eu cyrraedd ai peidio.

Gosododd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, darged y gwanwyn diwethaf i leihau rhestrau aros yng Nghymru o tua 800,000 i tua 600,000 erbyn mis Mawrth eleni.

Dywedodd hefyd na fyddai neb, erbyn hynny, yn aros dwy flynedd neu ragor am driniaeth.

Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru ym mis Tachwedd, awgrymodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru na fyddai bwrdd iechyd y gogledd yn cyrraedd y nod hwnnw.

Y methiant data hwn yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o broblemau i’r bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd i boblogaeth o tua 700,000 o bobl.

Yn ôl rhai beirniaid, mae’r bwrdd iechyd yn rhy fawr i weithredu’n effeithiol, ac maen nhw’n dadlau y dylid ei rannu.


BBC News

Views: 0

See also  England vs India: Harry Brook wicket

Check Also

Man denies racing brother before fatal crash, jury told

Rhys Jenkins died at the scene of the crash, while his son, Ioan, was airlifted …

Notting Hill and Love Actually actors star in film about Parkinson's disease

Rhys Ifans and Laura Linney are two people who have been diagnosed with Parkinson’s disease. …

Women’s World Cup qualifying: No Wales excuses despite travel disruption – Rhian Wilkinson

Montenegro is a key fixture for Wales as they fight it out with the Czech …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.