google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Cais cynllunio dadleuol i godi tai yn Aberystwyth wedi’i dynnu’n ôl

Mae Elin Mabbutt wedi byw ger Erw Goch ers 12 mlynedd, ac mae’n aelod o’r grŵp ymgyrchu.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd bod y cae wedi bod yn bwysig i’w theulu ers iddyn nhw symud i fyw gerllaw ac felly mae hi’n croesawu’n fawr bod y cais wedi’i dynnu’n ôl ond mae’n rhybuddio bod rhaid bod yn ofalus.

“Rydym wrth ein bodd fod y cais cynllunio wedi ei dynnu’n ôl a bod modd i’r gymuned leol barhau i ddefnyddio a mwynhau cae Erw Goch – ardal werdd sy’n hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl leol.

“Ond mae’n drueni fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwastraffu cymaint o arian trethdalwyr yn brwydro yn erbyn dymuniadau’r gymuned.”

Ychwanegodd na ddylid bod yn rhy optimistaidd a bod “pryderon y bydd cais newydd yn cael ei gyflwyno yn y pen draw”.

“Ond os daw cais newydd, fe fyddwn unwaith eto, fel cymuned, yn parhau i ymladd er mwyn sicrhau fod yr ardal werdd hon, sydd wedi bod yn lle hamdden i drigolion lleol ers degawdau, yn cael ei hamddiffyn ar gyfer y dyfodol.”


BBC News

Advertisements

See also  Disgwyl i Huw Edwards ymddangos yn y llys yn Llundain

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime