google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ymddiheuro am ‘ffaeleddau difrifol’

Feb80f80 2b32 11f0 8ff1 59f5dcf8e9f5.jpg

Advertisements

Dywedodd y bwrdd iechyd byddai unrhyw glaf yr effeithiwyd arno gan y ffaeleddau yma wedi cael ei hysbysu o dan brosesau “dyletswydd gonestrwydd” y bwrdd.

Cyn yr ymchwiliad hwn cafodd un aelod o staff ei ddal gyda chyffuriau, ac fe gafodd ei adrodd i’r heddlu, ond ni chafodd cyhuddiadau troseddol eu gwneud yn erbyn yr unigolyn.

Mae’r person hwnnw’n dal i weithio yn y bwrdd iechyd, yn dilyn proses ddisgyblu.

Fe ddywedodd y bwrdd iechyd hefyd y gwnaed cwyn ddienw i’r rheolwyr a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ynglŷn â hiliaeth.

Cynhaliwyd ymchwiliad, cafodd y person a gyhuddwyd ei atal, ond ni chymerwyd unrhyw gamau pellach gan nad oedd digon o dystiolaeth.

Mae’r bwrdd yn dweud bod “darn mawr o waith” yn cael ei wneud gyda staff i newid a gwella diwylliant o fewn y gweithle.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae’r theatrau a drafodir yn yr adroddiad yn cynnal 10,700 o lawdriniaethau bob blwyddyn – tua thraean o gyfanswm y llawdriniaethau a wneir gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae mwyafrif y llawdriniaethau hyn – tua 7,000 – yn achosion brys, y gellid eu cyflawni 24 awr y dydd, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.


BBC News

Views: 1

See also  Creu rhaglen deledu o fusnes fferm Eryri yn 'syrcas'

Check Also

Cwpl o Wynedd yn codi arian am driniaeth canser arbrofol yn Yr Almaen

Yn ôl Emyr, mae’r driniaeth yn ystyried gwybodaeth genetig y canser sy’n gwneud hi’n haws …

Jac Morgan: Wales flanker backs captaincy credentials of Dewi Lake

Morgan missed eight Tests after suffering the shoulder injury at Principality Stadium in Steve Tandy’s …

Some autistic women are not going for smear tests, research shows

Autistic women say smear tests can leave them feeling distressed, dismissed and in pain, with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Logi transports : your best choice for power only trucking. heavy equipment transport pima az. heavy equipment transport orange county fl.