google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ym Mlaenafon

Advertisements

Mae dyn 34 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn Nhorfaen fore Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Riverside Drive ym Mlaenafon yn oriau mân y bore, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu’n ddifrifol.

Bu farw dyn 47 oed o Flaenafon yn y fan a’r lle.

Mae dyn 34 oed o Dorfaen wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths o Heddlu Gwent: “Rydym yn deall bod adroddiadau o’r fath yn medru bod yn bryderus, ond rydym wedi arestio dyn o’r ardal, a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.”

Ychwanegodd y bydd gan y llu fwy o bresenoldeb yn yr ardal wrth i ymholiadau barhau.

Maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 1

See also  Rugby League Ashes third Test: England 8-30 Australia - highlights

Check Also

Y gantores fyd-enwog Bonnie Tyler wedi marw yn 75 oed

Mae’r gantores fyd-enwog o Gymru, Bonnie Tyler, wedi marw yn 75 oed. BBC News Views: …

Llofrudd i roi sampl DNA newydd 30 mlynedd wedi i Lin a Megan Russell farw

Gan fod gwyddoniaeth fforensig wedi datblygu gymaint ers cyfnod yr ymchwiliad heddlu gwreiddiol, gobaith tîm …

Eisteddfod Aberteifi ’76: Pwy sy’n cofio Concwest Cilgerran?

“Byddwn ni’n canu a hel atgofion am ganeuon oedden ni’n canu yn ‘Steddfod Aberteifi yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Has recently started releasing the results for the june 2024 term end exam. Home improvement product reviews. blog elfbar vape store.